Celtiaid Ynysig
![]() Celtiaid brodorol o Ynysoedd Prydain a Llydaw oedd y Celtiaid Ynysig, pobl a siaradai yn yr ieithoedd Celtaidd Ynysol, sef y Gelteg Ynysig. Defnyddir y term yn bennaf am bobloedd Celtaidd yr ynysoedd hyd at yr Oesoedd Canol cynnar, gan gwmpasu Oes Haearn Iwerddon a Phrydain, Prydain Rufeinig a Phrydain is-Rufeinig. Roeddent yn cynnwys y Brythoniaid, y Pictiaid a'r Goedeliaid. Un o'r prif nodweddion cyffredin rhwng y Celtiaid hyn oedd eu hiaith, a ymledodd ar hyd a lled yr ynysoedd yn ystod yr Oes Efydd neu'r Oes Haearn gynnar. Maent yn cynnwys dau brif grŵp: ieithoedd Brythonaidd yn y dwyrain a ieithoedd Goedelaidd yn y gorllewin. Er bod cofnodion o ieithoedd Celtaidd Cyfandirol o'r 6g CC, dim ond yn gynnar yn y mileniwm cyntaf OC y ceir tystiolaeth o'r ieithoedd Celtaidd Ynysol. Dilynodd y Celtiaid Ynysol grefydd Geltaidd Hynafol a oruchwylid gan y dderwyddon. Roedd gan rai o lwythau de Prydain gysylltiadau cryf â thir mawr Ewrop, yn enwedig Gâl a Belgica, ac roeddent yn bathu eu darnau arian eu hunain. Gorchfygodd yr Ymerodraeth Rufeinig y rhan fwyaf o Ynysoedd Prydain yn y 1g OC, a daeth peth diwylliant Brythonaidd-Rufeinig i'r amlwg yn y de-ddwyrain. Parhaodd y Cymbriaid a'r Pictiaid yn y gogledd a'r Goedeliaid (Gwyddelod) y tu allan i'r ymerodraeth. Yn ystod diwedd rheolaeth y Rhufeiniaid ym Mhrydain yn y 5g, roedd esiamplau o aneddiadau Eingl-Sacsonaidd i'w cael yn nwyrain a de Prydain, a rhywfaint o anheddiadau Gwyddelig ar yr arfordir gorllewinol, gan gynnwys Ynys Môn. Yn ystod y cyfnod hwn, ymfudodd rhai o Frythoniaid i Armorica, a elwir heddiw yn 'Llydaw', lle daethant i ddominyddu'r wlad. Yn y cyfamser, daeth llawer o ogledd Ynysoedd Prydain (yr Alban) yn Aeleg ei hiaith. Erbyn y 10g, roedd y Celtiaid Ynysol wedi esblygu'n ddau grwp ieithyddol:
Gwladfa Geltaidd Iwerddon ac Ynysoedd PrydainArcheolegMewn damcaniaethau hŷn, roedd dyfodiad y Celtiaid yn cyd-daro'n fras â dechrau ar Oes Haearn yr Ewrop. Ym 1946, cyhoeddodd yr ysgolhaig Celtaidd T. F. O'Rahilly ei fodel dylanwadol o hanes cynnar Iwerddon, a osododd bedair ton ar wahân o oresgynwyr Celtaidd, yn rhychwantu'r rhan fwyaf o Oes yr Haearn (700 i 100 CC). Fodd bynnag, roedd y dystiolaeth archeolegol yn gymysg oll i gyd. Dangosodd ymchwil diweddarach y gallai'r diwylliant fod wedi datblygu'n raddol ac yn barhaus rhwng y Celtiaid a'r poblogaethau brodorol. Yn yr un modd yn Iwerddon, ychydig o dystiolaeth archeolegol a ddarganfuwyd am grwpiau ymwthiol mawr o fewnfudwyr Celtaidd, sy'n awgrymu i archeolegwyr, megis Colin Renfrew, fod trigolion brodorol Oes yr Efydd hwyr yn amsugno dylanwadau ac iaith Geltaidd Ewrop dros y canrifoedd. Yn y 1970au, poblogeiddiwyd "model parhad" gan Colin Burgess yn ei lyfr The Age of Stonehenge, a ddamcaniaethodd fod diwylliant Celtaidd Ynysoedd Prydain "wedi dod i'r amlwg" yn hytrach nag yn ganlyniad i oresgyniad enfawr, ac nad oedd y Celtiaid yn oresgynnwyr estron, ond yn ddisgynyddion ffigurau megis Bwasaethwr Amesbury, a oedd yn amlwg yn Gelt cyfandirol. Mae'r dystiolaeth archeolegol yn dangos parhad diwylliannol sylweddol trwy fileniwm 1af CC,[1] gyda throshaen sylweddol o ddiwylliant La Tène Celtaidd hefyd o'r 4g CC ymlaen. Mae honiadau bod gwladwriaethau ar ffurf cyfandirol yn ymddangos yn ne Lloegr yn agos at ddiwedd y cyfnod, gan adlewyrchu o bosibl yn rhannol fewnfudo gan elitiau o wahanol daleithiau Gâl, megis rhai'r Belgica.[2] Dechreua tystiolaeth o gladdu cerbydau rhyfel yn Lloegr tua 300 CC ac fe'i cyfyngir yn bennaf i ddiwylliant Arras sy'n gysylltiedig â'r Parisii. IeithyddiaethGall olion ieithoedd cyn-Geltaidd aros yn enwau rhai nodweddion daearyddol, megis afonydd Clud, Tamar a Thafwys, y mae eu geirdarddiad yn tarddu oieithoedd cyn-Geltaidd. Credir bod y rhan fwyaf o drigolion ynysoedd Iwerddon a Phrydain yn siarad ieithoedd Celtaidd erbyn tua'r 6g CC. Mae dadansoddiad ieithyddol ffylogenetig o 2003 yn rhoi oes y Geltaidd Ynysol gryn dipyn ynghynt, sef 2,900 o flynyddoedd cyn y presennol, neu ychydig yn gynharach nag Oes Haearn Ewrop.[3] GenetegDangoswyd bod ymfudo yn chwarae rhan allweddol yn lledaeniad Diwylliant Bicer Gloch i Ynysoedd Prydain tua 2500 CC. Mae data genom gyfan o 400 o Ewropeaid Neolithig, Oes Copr a'r Oes Efydd (gan gynnwys >150 o genomau o Ynysoedd Prydain hynafol) wedi'u dadansoddi. Daeth tua 90% Ynysoedd Prydain yn ystod y Diwylliant Bicer Gloch, hy disodlwyd tua 90% o'r gronfa genynnau o fewn cyfnod o ganrif neu ddwy yn unig.[4] ] Dangosodd astudiaeth yn 2003 fod marcwyr genetig sy'n gysylltiedig ag enwau Gwyddelig yn Iwerddon a'r Alban hefyd yn gyffredin mewn rhannau o orllewin Cymru a Lloegr, ac yn debyg i farcwyr genetig y Basgiaid - ond yn wahanol iawn i'r Germaniaid.[5] Roedd y tebygrwydd hwn yn cefnogi canfyddiadau cynharach wrth awgrymu llinach enetig gyn-Geltaidd fawr, sy'n debygol o fynd yn ôl i anheddiad gwreiddiol Hen Oes y Cerrig Uchaf (y Paleolithig Uchaf). Mae'r awduron yn awgrymu, felly, y gall diwylliant ac iaith Geltaidd fod wedi'u mewnforio i Brydain ar ddechrau'r Oes Haearn trwy gyswllt diwylliannol, nid "goresgyniadau torfol". Canfu astudiaethau genetig diweddarach dystiolaeth bod rhai Celtiaid (o gyfnod La Tène) wedi ymfudo i Brydain ac ymlaen i ogledd-ddwyrain Iwerddon yn yr Oes Haearn Ddiweddar.[6] Yn 2021, datgelodd astudiaeth archeogeneteg fawr ymfudiad i dde Prydain yn yr Oes Efydd, yn ystod y cyfnod o 500 mlynedd rhwng 1300 a 800 CC.[7] Roedd geneteg y newydd-ddyfodiaid yn deby iawn i drigolion Gâl (sef y llwythau Celtaidd yn Ffrainc, y Swistir a gogledd yr Eidal heddiw.)[7] Yn ystod 1000–875 CC, lledaenodd eu marciwr genetig yn gyflym trwy dde Ynysoedd Prydain,[8] ond nid gogledd Prydain.[7] Mae awduron yr astudiaeth yn disgrifio hyn fel "fector credadwy ar gyfer lledaeniad yr ieithoedd Celtaidd cynnar i Brydain".[7] Bu llawer llai o fewnfudo yn ystod yr Oes Haearn, felly mae’n debygol i Geltaidd gyrraedd Prydain cyn hynny. [7] Awgryma Barry Cunliffe fod cangen o’r Gelteg eisoes yn cael ei siarad ym Mhrydain, ac mai ymfudiad yr Oes Efydd a gyflwynodd y gangen Frythoneg.[9] Gweler hefydCyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia