Pen y Mwd
Hen domen, neu fwnt, o'r Oesoedd Canol ydy Pen y Mwd, heb y mur gwarcheidiol arferol, sef y “beili”. Lleoliad: pentref Abergwyngregyn, Gwynedd; cyfeiriad grid SH656726. Mae'n bosib mai ffurf ar y gair 'mwnt' ('mwnt a beili') yw 'mwd' yn yr enw yma, neu dalfyriad o 'mwdwl' (gw. 'Pen y Mwdwl, Bro Gernyw). Cysylltir y castell hwn â theyrnasiad Llywelyn Fawr, ei fab Dafydd ap Llywelyn a'i ŵyr Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru. Dyma leoliad prif lys Teyrnas Gwynedd (neu o bosib, ar safle Pen-y-bryn, rhyw gan medr i'r gorllewin). Mae'r castell yn amddiffyn yr hen ffordd dros Fwlch y Ddeufaen ac yn gwarchod y fferi strategol dros Afon Menai i Lanfaes, prif borthladd Gwynedd yng nghyfnod y Tywysogion. Fe'i cofrestrwyd gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: CN007 .[1] Fe godwyd y rhan fwyaf o'r tomenni hyn yng Nghymru rhywdro rhwng degawdau olaf yr 11g ac ail hanner y 12g allan o bridd a charreg, gyda ffos o'u cwmpas fel rheol. Y Normaniaid ddaeth â'r math hwn o amddiffynfa o Ffrainc i wledydd Prydain a mabwysiadwyd y dechnoleg gan y Cymry. Mae'r clwstwr mwyaf o'r tomennydd hyn drwy wledydd Prydain i'w weld yn ardal y gororau (neu'r Mers): sef Swydd Amwythig, Swydd Gaer, Swydd Henffordd, Powys a Sir y Fflint fel y caiff ei adnabod heddiw.[2]
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia