Cestyll y Tywysogion Cymreig
Roedd uchelwyr a thywysogion Cymru wedi dechrau codi cestyll cyn i'r Normaniaid ddod i Gymru. Roedd y cestyll cynnar yn eithaf syml ond o'r 11g ymlaen, dan bwys yr ymosodiadau Normanaidd, dechreuodd y tywysogion godi cestyll mwy sylweddol a chwaraeai ran bwysig ym mywyd Cymru yn ystod yr Oesoedd Canol. Cestyll Tywysogion GwyneddCafodd y rhan fwyaf o'r cestyll hyn eu codi gan Dywysogion Gwynedd. Mae'r rhestr yn cynnwys ambell gastell o darddiad Normanaidd a feddianwyd ac a addaswyd gan y tywysogion. Nid yw'n cynnwys cestyll yn y canolbarth a'r de a feddiannid o bryd i'w gilydd gan Llywelyn Fawr neu Llywelyn ap Gruffudd.
Mae lleoliad, a bodolaeth, castell Llywelyn ap Gruffudd yn Abergwyngregin yn destun dadlau. Yn ogystal ceir sawl castell nad oes sicrwydd am ei leoliad heddiw, e.e. y castell a godwyd gan Owain Gwynedd yng Nghorwen yn 1165 a Plas Crug, sef, efallai, y castell a godwyd gan Llywelyn Fawr yn Aberystwyth yn 1208. Cestyll Tywysogion Deheubarth
Cestyll Tywysogion Powys
Cestyll tywysogion llai
Gweler hefydLlyfryddiaeth
|
Portal di Ensiklopedia Dunia