Tomen y Rhodwydd
Castell mwnt a beili a godwyd gan Owain Gwynedd i amddiffyn gororau Gwynedd Is Conwy yw Tomen y Rhodwydd. Saif mewn ardal o gaeau a bryniau isel i'r de o Landegla yn Iâl (de-ddwyrain Sir Ddinbych heddiw). Hwn, mae'n ymddangos, oedd y 'Castell yn Iâl' a godwyd gan Owain Gwynedd yn 1149, yn ôl Brut y Tywysogion, pan gipiodd gantref Iâl oddi ar frenhinoedd Powys. Safodd y castell cyntaf hwnnw hyd 1157 pan gafodd ei losgi'n ulw gan Iorwerth Goch ap Maredudd (Iorwerth Goch) o Bowys yn sgîl cyrch gan Harri II o Loegr ar Wynedd. Ceir cofnod arall mewn dogfen Seisnig o 1212 sy'n cyfeirio at drwsio 'castell Iâl', ond mae'n debyg mai castell arall yn yr un ardal a olygir, sef Tomen y Faerdre, 3 milltir i lawr y dyffryn ger Llanarmon-yn-Iâl. Mae'r castell yn sefyll ar dir preifat ond gellir ei weld o'r ffordd A525 rhwng Wrecsam a Rhiwabon, tua milltir a hanner i'r de-orllewin o Landegla. Llyfryddiaeth
|
Portal di Ensiklopedia Dunia