Castell Carndochan
Roedd Castell Carndochan yn un o gestyll Tywysogion Gwynedd. Saif ar ben bryn creigiog anghysbell tua dwy filltir a hanner i'r gorllewin o bentref Llanuwchllyn, de Gwynedd. Codwyd y castell gan Llywelyn Fawr, yn ôl pob tebyg, i warchod cantref strategol Penllyn a'r mynediad i brif diroedd Gwynedd o'r de-ddwyrain (cipiodd Llywelyn Benllyn oddi ar Bowys Wenwynwyn yn 1202). Mae'r castell yn sefyll ar fan uchaf trwyn creigiog o dir sy'n ymwthio allan ar waelod cwm mynyddig Pennant-lliw lle rhed Afon Lliw i aberu yn Afon Dyfrdwy. Oddi yno gellir gweld rhan helaeth o Benllyn, o lannau Llyn Tegid i odre'r Berwyn a'r fynedfa i gyfeiriad Gwynedd ar hyd Glyndyfrdwy. Roedd y Rhufeiniaid yn ymwybodol o bwysigrwydd strategol yr ardal gan eu bod wedi codi caer yng Nghaer Gai, tua dwy filltir i'r gorllewin o'r castell. ![]() Erbyn heddiw mae'r castell yn adfail ond gellir gweld rhannau isaf y muriau i gyd. Torrywd ffos rhwng y castell a gweddill y gefnen o dir mae'n sefyll arno: mae'r tir mor syrth a garw fel bod dim angen llawer o amddiffyn ar y tair ochr arall. Adeiladwaith syml sydd iddo. Ni ddefnyddid llawer o forter yn y muriau. Yng nghanol y llenfur ceir sylfeini tŵr sgwâr (tebyg i'r hyn a welir yn Nolwyddelan, ond yn fwy amrwd). Roedd 'na dri thŵr arall ym mhennau gogledd—orllewinol, deheuol a dwyreiniol y castell. Yn rhyfedd iawn does dim olion porth i'w gweld o gwbl. Mae'r castell ar dir preifat heb fynediad swyddogol iddo. Llyfryddiaeth
|
Portal di Ensiklopedia Dunia