Castell Trefilan
Castell a godwyd gan dywysogion Deheubarth yn ne canolbarth Ceredigion yw Castell Trefilan. Ceir yr adfeilion ar safle coediog ger ysgol pentref Trefilan, tua 7 milltir i'r dwyrain o Aberaeron (Cyfeirnod OS: SN549571). Ychydig iawn a wyddom am ei hanes. Yn ôl cofnod yn Brut y Tywysogion am y flwyddyn 1233, gorfennodd Maelgwn Fychan adeiladu'r castell yn y flwyddyn honno, ond ei dad Maelgwn ap Rhys a gychwynodd y gwaith, efallai yn 1231. Roedd ar safle strategol, hanner ffordd i fyny Dyffryn Aeron, yn gwarchod rhyd ar afon Aeron. Ceir yr unig gyfeiriad arall at y castell mewn llythyr at yr awdurdodau Seisnig dyddiedig 1282 sy'n dweud bod Rhys ap Maredudd wedi ymosod arno a'i losgi a rhyddhau deunaw o garcharorion o Gymry. Castell mwnt a beili ydyw, ac mae'r domen i'w gweld heddiw ger yr ysgol ar bwys y pentref. Llai na filltir i'r de, ar lan afon Aeron, ceir safle tybiedig lleiandy Sistersaidd Llanllŷr. Llyfryddiaeth
|
Portal di Ensiklopedia Dunia