Paul Gauguin
Arlunydd ôl-argraffiadol o Ffrainc oedd Eugène Henri Paul Gauguin (7 Mehefin 1848 – 8 Mai 1903). Heb fod yn adnabyddus yn ystod ei fywyd, fe'i gydnabuwyd yn ddiweddarach am ei ddefnydd mentrus o liw ac am herio syniadaeth celf Ewropeaidd gyfoes tra'n gweithio yn y Caribî ac Ynys Tahiti.[1] Bu'n ddylanwad mawr ar y genhedlaeth ganlynol o arlunwyr fel Henri Matisse, Pablo Picasso a Georges Braque a mudiadau fel Fauve ac Mynegiadaeth Almaeneg (German Expressionism). Bywyd cynnarGanwyd i deulu rhyddfrydol a bu rhaid iddynt ddianc i Periw ym 1851 wedi coup d'etat Napoleón III pan roedd Paul ond yn 18 mis oed. Pan ddychwelon i Ffrainc fe'i astudiodd yn yr ysgol yn Orleans rhwng 1859 a 1865 cyn fynd yn forwr yn 17 oed. Ym 1870 aeth i weithio yn y gyfnewidfa stoc ym Mharis ble fu'n dra llwyddiannus. Priododd â merch o Ddenmarc, Mette-Sophie Gad, a chafodd y cwpl bump o blant gan fyw bywyd bourgeois, cyffyrddus.[1] Dechreuodd Gauguin ymddiddori yn y byd celf, yn arbennig gwaith Argraffiadaeth (Ffrangeg: Impressionnisme) a oedd yn arddull newydd cyffrous ym Mharis y cyfnod. Dechreuodd Gauguin wersi peintio gan arddangos gyda'r impressionnistes ac fe ddaeth i adnabod yr arlunwyr Manet, Cézanne, Monet a Camille Pissarro.[1] Yn 1882, fe'i gadawodd ei swydd i fod yn arlunydd llawn amser gan achosi problemau ariannol difrifol i'w deulu. Bu rhaid iddynt symud i fwy yng Copenhagen at deulu ei wraig cyn i Gauguin adael ei wraig a phlant yn llwyr i ddychwelyd i Ffrainc i beintio. Peintiwr
Bu ei brofiad o fyw fel plentyn yn ne America a'i deithiau fel morwr yn ddylanwad mawr arno ac ym 1887 fe aeth i fyw ym Panama gan symud ymlaen i Ynys Martinique yn y Caribî. Datblygodd Gauguin ymhellach ei arbrofion gyda lliwiau gan geisio adlewyrchu lliwiau llachar natur drofannol a chyfleu symbolaeth bywyd “cyntefig” y brodorion. Roedd syniadau rhamantaidd o ddianc rhag “gwareiddiad” dinasoedd budron i fywyd mwy naturiol ymhlith pobloedd a ystyriwyd yn “gyntefig” yn ennyn poblogrwydd ymhlith llawer o ysgrifenwyr ac arlunwyr Ewropeaidd y cyfnod. Roedd diddordeb mawr yng nghelf pobloedd “egsotig” frodorol Affrica ac Asia gyda masgiau, cherfluniau a phrintiau'n cael eu cludo yn ôl i Ewrop wedi i'r Ewropeaid gipio a choloneiddio eu tiroedd. Yn ddiweddarach adnabyddir Gauguin un o brif artistiaid y symudiad celfyddydol Primitivisme y cyfnod. Pan ddychwelodd i Ewrop bu'n byw gyda grŵp o arlunwyr arbrofol ym Mhont Aven, Llydaw rhwng 1886 a 1891. Ym 1888 peintiodd gyda Vincent van Gogh ond arweiniodd eu cyfeillgarwch i ddadl gyda chyllell rhwng y ddau.[2] Ym 1891 hwyliodd Gaugain i Ynys Tahiti ac wedyn ynysoedd eraill Polynesia i ddianc “popeth sydd yn ffug ac yn gonfensiynol”[3]. Yno fe greodd rhai o'i luniau a cherfluniau mwyaf adnabyddus.[1] Yn dilyn rhai blynyddoedd hapus ym Mholynesia cafodd amseroedd anodd - yn sâl gyda syffilis a heb arian. Cafodd broblemau gydag awdurdodau coloneiddiol Ffrangeg am ddadlau o blaid y bobl frodorol yr ynysoedd. Bu farw yn 1903.[4] Mae awydd Gauguin i ddarganfod delfryd amhosib ymhlith natur a bywyd pobl werin frodorol “syml ac egsotig” wedi'i feirniadu yn ddiweddarach fel esiamplau o agwedd hiliol a rhagfarnllyd pobl Ewropeaidd y cyfnod, yn arbennig y modd ecsbloetiodd Gauguin ferched ifanc Iawn am ei chwant rhywiol.[5][6] Gwaith Gauguin
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia