Achosodd ei weithiau enwog cynnar Le Déjeuner sur l'herbe (Picnic ar y Gwair) ac Olympia gryn syndod pan arddangoswyd yn gyntaf. Yn ddiweddarach roedd y gweithiau yma'n hynod o bwysig yn natblygiad celf fodern gan ddylanwadu’n fawr y cenedlaethau nesaf o arlunwyr.
Wedi'i geni a magu ym Mharis, yn fab i deulu cyfoethog. Fe'i hyfforddodd gyda Thomas Couture. Roedd ei waith yn seiliedig ar y chwarae rhwng cysgod a golau, gyda nifer cyfyngedig o liwiau gan wneud defnydd pwysig o ddu. Bu hefyd yn peintio'n syth o'r model. Roedd gwaith yr arlunydd Sbaeneg Diego Velázquez (1599-1660) yn ddylanwad mawr ar ei steil.
Ym Mharis fe gymysgodd gydag ysgrifenwyr avant-garde, yn fwyaf nodweddiadol gyda Baudelaire a ymddangosodd yn ei ddarlun Y Gerddoriaeth yng Ngerddi Tuileries. Daeth ei waith yn enwog trwy 'Salon des Refusés', arddangosfa o ddarluniau a wrthodwyd gan y sefydliad Salon swyddogol.
Ym 1869 a 1987 cynhaliodd arddangosfeydd un-dyn. Yn yr 1870au, o dan ddylanwad Claude Monet a Renoir, beintiodd dirluniau a golygfeydd o strydoedd wedi'u dylanwadau gan Argraffiadaeth(Impressionnisme). Serch hynny bu'n gyndyn i arddangos ei waith gyda'r impressionnistes gan obeithio am gydnabyddiaeth y Salon.
Oriel Édouard Manet
Picnic ar y Gwair, 1863
Bar yn y Folies-Bergère, 1882
Olympia, 1863
Y Canwr Sbaeneg, 1860 Amgueddfa Gelf Metropolitan
Bachgen yn dal cleddyf, 1861
Y Hen Gerddor,1862 Oriel Gelf Genedlaethol
Mlle. Victorine mewn gwisg Matador, 1862 Amgueddfa Gelf Metropolitan
Crist Farw gydag Angylion 1864
Brwydr Kearsarge a'r Alabama, 1864 Amgueddfa Gelf Philadelphia
Matador Farw, 1864–1865 Oriel Gelf Genedlaethol
Yr Athronydd, (y cardotyn gyda llymeirch), 1864–1867 Sefydliad Celf Chicago,
Codwr Clytiau, 1865–1870 Amgueddfa Norton Simon
Y Darllen, 1865–1873
Ffliwtydd Ifanc, 1866 Musée d'Orsay
Bywyd Llonydd gyda Melon a Eirin Gwlanog, 1866 Oriel Gelf Genedlaethol
Yr Actor Trasig (Rouvière fel Hamlet), 1866 Oriel Gelf Genedlaethol
Merch gyda Pharot Amgueddfa Gelf Metropolitan, 1866
Portread Madame Brunet Amgeuddfa J. Paul Getty Museum, 1867
Dienyddio Brenin Maximilian, 1868
Portread Émile Zola, 1868 Musée d'Orsay
Brecwast yn y Stiwdio (y siaced du), 1868 Neue Pinakothek
Y Balconi, 1868–1869 Musée d'Orsay
Hwylio, 1874 Amgueddfa Gelf Metropolitan
Camlas Fawr Fenis (Fenis Glas) Amgueddfa Shelburne Museum, 1875
Madame Manet, 1874–1876 Amgueddfa Norton Simon,
Portread Stéphane Mallarmé, 1876 Musée d'Orsay
Nana, 1877
Rue Mosnier gyda baneri, 1878 Amgeuddfa J. Paul Getty Museum
Yr Eirinen, 1878 Oriel Gelf Genedlaethol
Chez le père Lathuille, 1879 Musée des Beaux-Arts Tournai