Mae Monet yn ailgyfeirio i'r dudalen hon. Ni ddylid cymysgu rhwng Monet a Manet, paentiwr arall o'r un cyfnod.
Arlunydd o Ffrainc oedd Claude Oscar Monet (14 Tachwedd1840 – 5 Rhagfyr1926), yn sylfaenydd y mudiad celfyddydol Argraffiadaeth(Impressionnisme), Ei baentiad Impression: Soleil levant ('Argraff: Yr haul yn codi') a roddodd yr enw i'r mudiad arloesol newydd.[1][2]
Roedd ei uchelgais o ddogfenni tirwedd Ffrainc yn ei arwain i beintio'r un olygfa sawl tro er mwyn dal newidiadau yn y golau wrth i'r tymhorau pasio. O 1883 ymlaen bu'n byw yn Giverny, ble y prynodd dŷ ac aeth ati i godi gerddi yn cynnwys pyllau lili a ddaeth yn rhai o'i ddarluniau enwocaf.
Monet ac Argraffiadaeth (Impressionnisme)
Impression, soleil levant, 1872; (Argraff, yr haul yn codi) a roddodd yr enw i'r mudiad arloesol newydd. Musée Marmottan Monet, Paris
Yn siomedig ag agwedd ceidwadol yr Académie des Beaux-Arts ac eu hymateb negyddol i'w gwaith, trefnodd Monet a grŵp o arlunwyr o'r un meddwl arddangosfa eu hunain ym 1874. Roedd yr arddangosfa yn agored i unrhyw un oedd yn fodlon talu 60 ffranc ac yn cymeradwyo dim ymyrraeth o banel o ddetholwyr i wrthod unrhyw waith.
Galwyd y grŵp yn Impressionnistes. Eu nod oedd dylunio'r byd o'u cwmpas mewn modd mwy rhydd a ffres na chaniataodd gonfensiynau academaidd y cyfnod, gan ddal yr "argraff" cyffredinol o olygfa a welir gan y llygaid, gyda phwyslais ar effeithiau lliw a golau. Roedd peintio tirluniau yn yr awyr agored yn un o brif nodweddion y symudiad, yn ogystal â golygfeydd o fywyd dinesig bob dydd.
[3]
Darluniau 1858–1872
Golwg yn Rouelles, Le Havre 1858, Casgliad preifat; gwaith cynnar yn dangos dylanwad Corot a Courbet.
Aber y Seine yn Honfleur, 1865, Sefydliad Norton Simon, Pasadena; yn dangos dylanwad arddull peintio morwrol Iseldireg.[4]
Merch yn yr ardd, 1867, Amgueddfa Hermitage, St. Petersburg; Astudiaeth effaith yr haul a chysgod ar liw
Jardin à Sainte-Adresse, 1867, Amgueddfa Metropolitan, Efrog Newydd.[6]
Y Cinio, 1868, Städel, yn dangos Camille Doncieux a Jean Monet, a wrthodwyd gan Salon Paris, 1870, ond gafodd ei gynnwys yn yr arddangosfa gyntaf Impressionnisme yn 1874[7]
La Grenouillére 1869, Amgueddfa Gelf, Efrog Newydd; darlun bach 'plein-air' (yn yr awyr agored) gyda strôc frwsh llydan o liw cryf.[8]
Y Bioden, 1868–1869. Musée d'Orsay, Paris; Un o ymdrechion cynnar Monet i ddal effaith eira ar y dirwedd.
Le port de Trouville (Morglawdd Trouville, ar lanw isel), 1870, Amgueddfa Gelf Gain, Budapest.[9]
La plage de Trouville, 1870, National Gallery, Llundain. Y person ar y chwith gall fod yn Camille, ar y dde gwraig Eugène Boudin[10]
Jean Monet ar ei geffyl pren, 1872, Amgeuddfa Gelf Metropolitan, Efrog Newydd
Gwanwyn 1872, Amgueddfa Gelf Walters
Ym 1876 symudodd teulu Monet i bentref Vétheuil yn rhannu tŷ ag Ernest Hoschedé, dyn busnes cyfoethog ac yn gefnogwr y celfyddydau. Ym 1879 bu farw ei wraig Camille o ganser yn 32 mlwydd oed.[11][12]
Yn y cyfnod anodd wedi colled Camille peintiodd Monet rhai o ddarluniau gorau yn darganfod Giverny yn Normandi ym 1883.
Yn 1877 gwnaeth gyfres o ddarluniau o orsaf drenau St-Lazare, Paris, yn astudio ager a mŵg a'r ffordd a'u heffaith ar liw a thryloywder. Roedd yn gallu defnyddio’r astudiaethau hyn yn ddiweddarach ar gyfer effeithiau niwl a glaw.[13][14]
Darluniau 1873–1879
Camille Monet ar fainc yn yr ardd, 1873, Amgueddfa Gelf Metropolitan, Efrog Newydd
Tŷ'r arlunydd Argenteuil, 1873, Sefydliad Gelf Chicago
Coquelicots, La promenade (Pabïau), 1873, Musée d'Orsay, Paris
Argenteuil, 1874, Oriel Gelf Genedlaethol, Washington D.C.
Cwch Stiwdio, 1874, Amgueddfa Kröller-Müller Museum, Yr Iseldiroedd
Blodau ar lan yr afon, Argenteuil, 1877, Amgueddfa Gelf Pola, Japan
Gorsaf trên Saint Lazare, Paris, 1877, Sefydlaid Gelf Chicago
Vétheuil yn y niwl, 1879, Musée Marmottan Monet, Paris
Monet, ar y dde, yn ei ardd yn Giverny, 1922
Prynodd dŷ yn Giverny ar gyfer ei deulu mawr, gydag ysgubor ar gyfer ei stiwdio. Wrth i gyfoeth Monet dyfu fe ehangodd y gerddi gan gyflogi 7 o arddwyr a phensaer.[15]
Ym 1993 prynodd ragor o diroedd yn cynnwys dolydd gwlyb ble'r adeiladodd lynnoedd gyda lilis a phont Japaneaidd. Treuliodd yr 20 mlynedd nesaf yn gwneud cyfres o gynfasau mawrion o'r golygfeydd hyn gan astudio'r golau a'r adlewyrchiadau a ddaeth yn rhai o'i weithiau enwocaf.[16] Mae'r tŷ yn Giverny bellach yn agored i'r cyhoedd ac yn denu miloedd o dwristiaid o bob cwr o'r byd.
Gardd Monet
Porth y Rhosod, Giverny, 1913, casgliad priefat
Lilis Dŵr a'r Bont Japanaidd, 1897–99, Amgueddfa Gelf Brifysgol Princeton University
Lilis Dŵr, 1906, Sefydlaid Gelf Chicago
Lilis Dŵr, Musée Marmottan Monet
Lilis Dŵr, tua 1915, Neue Pinakothek, Munich
Lilis Dŵr, tua 1915, Musée Marmottan Monet
Peintiodd Monet yn uniongyrchol ar gynfasau mawrion yn yr awyr agored, a'u gorffen yn ei stiwdio yn nes ymlaen. Yn ei ymgais i well gyfleu natur fe wrthododd gonfensiynau Ewropeaidd y cyfnod ynglŷn â chyfansoddi, lliw a phersbectif. Fe'i dylanwadwyd gan brintiau bloc pren Japaneaidd, ei drefniadau anghymesur o elfennau yn pwysleisio eu harwynebedd dau ddimensiwn gan hepgor persbectif llinol. Llwyddodd greu lliwiau llachar ysgeifn gan ychwanegu amrywiaeth o dôn i'r cysgodion, ac yn paratoi cefndir y cynfas gyda lliwiau golau yn lle'r cefndiroedd tywyll a oedd yn draddodiadol mewn tirluniau.
Darluniau diweddar Monet
Lilis dŵr ac adlewyrchiadau helygen (1916–19), Musée Marmottan Monet
Pwll lilis a helygen wylofus , 1916–1919, Sale Christie's New York, 1998
Helygen Wylofus, 1918–1919, Amgeuddfa Gelf Kimball, Fort Worth, roedd “Helyg wylofus” Monet yn deyrnged i filwyr Ffrangeg a syrthiodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf
Tŷ ymhlith y rhosod, rhwng 1917 a 1919, Albertina, Fiena
Rhodfa'r rhosod, Giverny, 1920–22, Musée Marmottan Monet
Y bont droed Japanaeg, 1920–22, Amgueddfa Gelf Modern
Yr ardd yn Giverny
Llyfryddiaeth
Howard, Michael The Treasures of Monet. (Musée Marmottan Monet, Paris, 2007).
Kendall, Richard Monet by Himself, (Macdonald & Co 1989, updated Time Warner Books 2004), ISBN 0-316-72801-2