Argraffiadaeth
Mudiad yng nghelf yn y 19eg ganrif a darddodd yn Ffrainc oedd Argraffiadaeth (Ffrangeg: Impressionnisme). Grŵp anffurfiol oedd yr Argraffiadwyr gwreiddiol a ddaeth at ei gilydd i arddangos eu peintiadau yn annibynnol o'r Salon ym Mharis, o 1874 ymlaen. Eu nod oedd dylunio'r byd o'u cwmpas mewn modd mwy digymell a ffres nad oedd confesiynau academaidd y cyfnod yn caniatáu, gan ddal yr "argraff" cyffredinol o olygfa a welir gan y llygaid, gyda phwyslais ar effeithiau lliw a golau. Roedd peintio tirluniau yn yr awyr agored yn un o brif nodweddion y symudiad, yn ogystal â golygfeydd o fywyd dinesig bob dydd; hefyd roedd gan rhai o'r artistiaid eu hoff themâu y dychwelant atynt drosodd a throsodd. Ym mhlith yr Argraffiadwyr pennaf oedd Claude Monet, Pierre-Auguste Renoir, Alfred Sisley, Édouard Manet, Edgar Degas a Camille Pissarro. Daw enw'r symudiad o beintiad gan Monet, Impression, soleil levant ('Argraff, Codiad Haul', 1872), un o'r gweithiau yn yr arddangosfa annibynnol cyntaf ym 1874; bwriad y gŵr a fathodd y term, Louis Leroy, oedd i'w dychanu. Yn sgil y symudiad yng nghelf roedd symudiadau Argraffiadol yng ngherddoriaeth a llenyddiaeth. ![]() |
Portal di Ensiklopedia Dunia