Arlunydd o Ffrainc oedd Pierre-Auguste Renoir (25 Chwefror1841 – 3 Rhagfyr1919). Bu'n un o brif arlunwyr y grŵp Argraffiadol (Ffrangeg: Impressionnisme). Datblygodd dechneg o waith brwsh toredig, manwl gyda chyfuniad o liwiau a oedd yn cydweddu er mwyn dal symudiad a golau. Yn dilyn ei ymweliad â'r Eidal ym 1881 newidiodd ei steil i fod yn fwy clasurol.
Priododd, ym 1890, â Aline Victorine Charigot, model yn y paentiad Le Déjeuner des canotiers.
Bu'n dad i'r actor Pierre Renoir (1885–1952), y cyfarwyddwr ffilm Jean Renoir (1894–1979) a'r crochenydd Claude Renoir (1901–69). Yn daid i'r gweithiwr ffilm Claude Renoir (1913–1993), mab Pierre.
Bywyd a Gwaith
Pierre-Auguste Renoir, ca.1910
Cafodd ei eni yn Limoges, Haute-Vienne, Ffrainc i deulu tlawd. Dechreuodd weithio fel peintiwr ar borslen. Symudodd i Baris, gan ymuno â stiwdio'r arlunydd ffasiynol Charles Gleyre tua 1861-2. Ym Mharis cyfarfu â Claude Monet ac ym 1869 dechreuodd y ddau weithio gyda'i gilydd yn sgetsio wrth Afon Seine.
Bu'n anhapus gyda'r system swyddogol Salon a oedd yn araf i arddangos gwaith newydd a mentrus. Ym 1873 bu Renoir ymhlith y grŵp o artist, yn cynnwys Claude Monet, Camille Pissarro, Paul Cézanne, a ffurfiodd y Société Anonyme Coopérative des Artistes Peintres 6 o gynfasau mewn arddangosfa'r Société Anonyme a ddaeth yn enwog yn ddiweddarach fel yr arddangosfa Impressionniste (Argraffiadol) gyntaf.
Ar ddiwedd ei oes, dioddefodd arthritis a bu rhaid clymu ei frwsh i'w law er mwyn iddo ei ddal.[2]
Ym 1919, blwyddyn olaf ei fywyd, prynodd oriel fwyaf Paris y Louvre un o'i luniau, anrhydedd mawr iddo ac yn arwydd o'r sefydliad celf yn derbyn gwaith Impressionniste o'r diwedd.[3]
Mae dau o ddarluniau Renoir wedi'u gwerthu am fwy na $70 miliwn dolar. Gwerthwyd Bal au moulin de la Galette am $78.1 miliwn ym 1990, un o'r darluniau drytach y byd ar y pryd.
Yn 2012, cafodd un o gynfasau Renoir Paysage bord du Seine ei rhoi ar werth mewn ocsiwn ond ddarganfuwyd a gafodd ei ddwyn o Oriel Gelf Baltimore ym 1951 a fe'i dynnwyd yn ôl o'r farchnad.
Oriel
Y Bocs Theatr, 1874 Oriel Sefydlaid Courtaul
La Balançoire, 1876 Musée d'Orsay, Paris
Dawns yn Le Moulin de la Galette, 1876
Lise'n gwnïo, 1866 Amgueddfa Gelf Dallas
La Grenouillère, 1868 Amgueddfa Stockholm
Portread Alfred Sisley, 1868
Claude Monet yn peintio yn ei ar ardd yn Argenteuil, 1873 Wadsworth Atheneum, Connecticut