Llanbabo
Pentref bychan yng nghymuned Tref Alaw, Ynys Môn, yw Llanbabo[1][2] ( ynganiad ). Saif yng ngogledd-ddwyrain yr ynys, 4 milltir i'r de o Fae Cemaes ar ymyl Cors y Bol ger Llyn Alaw. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o gwmwd Talybolion. Ceir tystiolaeth sy'n awgrymu'n gryf fod Sefnyn, un o Feirdd yr Uchelwyr a ganai yn ail hanner y 14g, yn frodor o blwyf Llanbabo. Eglwys Pabo SantMae'r eglwys yn gysegredig i Sant Pabo (5g). Eglwys un siambr ydyw, a godwyd yn y 12g yn ystod teyrnasiad Owain Gwynedd ond a newidiwyd yn sylweddol yn y 19g. Ynddi ceir maen cerfiedig ac arni delwedd bas-relief o'r sant, oedd yn aelod o deulu brenhinol Gwynedd yn yr Oesoedd Canol cynnar, yn gwisgo coron ac yn dwyn teyrnwialen. Mae'r maen yn dyddio o ddiwedd y 14g. Tybir i gerflun arall ar yr ynys, yn Eglwys Sant Iestyn, yn Llaniestyn, gael ei gerfio gan yr un crefftwr. Hefyd o ddiddordeb arbennig yw'r tri phen cerfiedig canoloesol sydd wedi'u gosod yn y bwa uwchben porth yr eglwys; tybir eu bod yn cynrychioli'r Drindod (ceir pennau cyffelyb ym Mhriordy Penmon ac yn eglwys Llan-faes). Mae muriau'r llan o gwmpas yr eglwys ar ffurf crwn, arwydd o hynafrwydd y safle. Hynafiaethau eraillFilltir i'r de o'r pentref ceir maen hir ac yn agos i hwnnw mae safle Bedd Branwen ar lan Afon Alaw. Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Trefi |
Portal di Ensiklopedia Dunia