Niwbwrch
Tref yng nghymuned Rhosyr, Ynys Môn, ydy Niwbwrch[1] (Saesneg: Newborough).[2] Saif ar lôn yr A4080 rhwng Porthaethwy ac Aberffraw. Yr eglwysMae'r eglwys, sy'n gysegredig i Bedr a Phaul, yn hen. Adeilad â chorff hir a chul ydyw, a godwyd yn y 14g ar safle hŷn. Mae'r bedyddfaen hefyd yn dyddio o'r 12g ac o waith Cymreig lleol. Ychwanegwyd porth i'r eglwys yn y 15g. Ceir dau feddfaen hynafol yno, un ohonyn nhw gyda cherfwaith blodeuog a'r llall gyda'r arysgrif Hic jacet Dns Mathevs ap Ely arno ('Yma mae'r Arglwydd Mathew ap Eli yn gorffwys'). HanesCreuwyd y fwrdeistref newydd (ystyr llythrennol 'Niwbwrch') ar ddiwedd y 13g ar gyfer y Cymry a orfodwyd i ymadael â Llan-faes gan y Saeson. Cyn hynny roedd treflan fach yno ger Llys Rhosyr, un o brif lysoedd Tywysogion Gwynedd yn Oes y Tywysogion. Rhosyr oedd enw'r cantref hefyd. Ar ganol y 14g ymwelodd Dafydd ap Gwilym â Niwbwrch a chanodd gywydd i foli'r dref a'i drigolion. Dyma'r llinellau agoriadol:
Arglwydd Newborough
Dylid nodi nad oes gan y teitl hwn ddim byd i'w wneud yn uniongyrchol â Niwbwrch. Fe enwyd aelodau o deulu Glynllifon, Sir Gaernarfon yn arglwyddi Newborough wedi i Syr Thomas Wynn gael ei ddyrchafu i farwnyddiaeth Iwerddon yn y 18g. Fe ddewisodd y teitl "Arglwydd Newborough" sef arglwydd tref Newborough yn Contae Loch Garmon (swydd Llwch Garmon); erbyn heddiw, newidiwyd enw Newborough i Guaire neu 'Gorey'. Mae'n debyg mai oherwydd i Thomas Wynn fod yn berchen ar ychydig o leiniau o dir ym mhlwyf Niwbwrch y dewisodd yr enw, trwy weld hwylustod y cyd-ddigwyddiad o ran enw'r ddau le. Cwbl anghywir felly yw cyfeirio at "Arglwydd Niwbwrch". NaturMae Niwbwrch yn cynnwys llawer o flodau fel clychau'r gog, blodyn ymenyn a pabi coch. Mae gan Niwbwrch y systymau twyni gorau yn Mhrydain Atyniadau
Pobl
Llyfrau hanes lleol
OrielCyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Trefi |
Portal di Ensiklopedia Dunia