Llangefni
Tref a chymuned yng nghanol Ynys Môn ydy Llangefni.[1][2] Mae wedi bod yn dref farchnad bwysig i'r ynys. Llangefni yw tref sirol Môn a lleolir pencadlys Cyngor Sir Ynys Môn yma. Mae Caerdydd 211.6 km i ffwrdd o Llangefni ac mae Llundain yn 344.7 km. O'i tharddle ger Llyn Cefni rhed Afon Cefni trwy'r dref, sy'n cymryd ei enw o'r afon. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 11.7 km i ffwrdd. Y prif dref fasnachol ac amaethyddol yn Ynys Môn ydy Llangefni. Cafodd marchnad gyntaf y dref ei chynnal yn 1785 ac mae'n dal i gael ei chynnal bob dydd Iau a dydd Sadwrn. Ers talwm roedd Llangefni yn gartref i farchnad wartheg fwyaf yr ynys. Bellach mae yna ystâd ddiwydiannol gymharol fawr, sy'n cynnwys ffatri brosesu cyw iâr fawr, y gweithrediad diwydiannol sengl mwyaf yn y dref, yn ogystal â nifer o fusnesau bach eraill. Yn y dref ceir Oriel Môn, gydag amgueddfa sy'n olrhain hanes yr ynys ac oriel i ddangos gwaith yr arlunydd bywyd gwyllt Charles Tunnicliffe. Yng Nghyfrifiad 2021 roedd gan cymuned Llangefni boblogaeth o 5,499.[3] Mae 83.8% o'r boblogaeth honno'n rhugl yn y Gymraeg gyda'r canran uchaf yn yr oedran 10-14 mlwydd gyda 95.2% yn medru'r Gymraeg. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)[4] ac yn Senedd y DU gan Llinos Medi (Plaid Cymru).[5] HanesYn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Menai, cantref Aberffraw. Mae eglwys y plwyf, Eglwys Cyngar Sant,yn sefyll mewn coed yn y Dingle. Un o enwau'r dref yn y gorffennol oedd 'Llangyngar',hen enw'r eglwys. Yng nghanol y dref mae cloc, talwyd gan gyfeillion a pherthnasau yr lefftenant George Pritchard-Rayner, un o dirffeddianwyr mawr Ynys Môn a drigai yn Nhre Ysagwen.[6] Mae'r cloc wedi wneud o garreg clach o Dreath Bychan ger Marian-Glas ar arfordir dwyreiniol Ynys Mon. Adeiladwyd yn y bynyddoedd 1902/03. Cyn hynny yn yr 1880au adeiladwyd neuadd y dref o'r un deunydd a'r cloc ac agorwyd ar Fawrth y 10fed,1884. Ymladdwyd Rhyfel Eingl-Boer rhwng Prydain a gweriniaethau Boer. Fe ddaru Lefftenant George Pritchard-Rayner ymladd yno a farwodd yn Ysbyty Bloemfontein yn 1900.[7] AddysgPrif ysgol y cylch yw Ysgol Gyfun Llangefni. Ar safle yng ngorllewin y dref. Ceir campws lleol Coleg Menai yn y dref. Mae ysgolion cynradd yn Llangefniyn cynnwys Ysgol Corn Hir ag Ysgol y Graig. Hefyd, ysgol ar gyfer plant anabaleddau or enw Ysgol y Bont. ChwaraeonMae Clwb Pêl-droed Llangefni yn chwarae yng Nghynghrair Undebol y Gogledd. Ceir Clwb Rygbi Llangefni hefyd. Enwogion
Eisteddfod GenedlaetholCynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Llangefni ym 1957 a 1983. Am wybodaeth bellach gweler: Cyfrifiad 2011Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[8][9][10] Oriel
Gweler hefydCyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Trefi |
Portal di Ensiklopedia Dunia