Y Fali
Pentref a chymuned yng ngorllewin Ynys Môn yw Y Fali (Saesneg: Valley). Saif ar yr A5 yn agos at Ynys Cybi. Mae gan y pentref orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru (lle dim ond ar gais mae trenau'n stopio). EnwMae peth drafodaeth wedi bod ynglŷn â tharddiad yr enw. Yn ôl rhai, mae'r gwraidd yn y Gwyddeleg Baile, anheddiad, yn hytrach na'r gair Saesneg, Valley. Dywed Gwilym T. Jones a Tomos Roberts [1] fel arall, sef bod y gair yn dod o'r amser pan gloddiwyd pant er mwyn cael rwbel i adeiladu Pont Lasinwen, neu Morglawdd Stanley, rhan o'r A5 presennol. Roedd y pant a ffurfiwyd wedi cael yr enw Valley, a drosglwyddwyd i'r pentref. Defnyddir y ffurf (Y) Dyffryn yn ogystal ag Y Fali heddiw. RAF y Fali
Yn agos i'r pentref mae gorsaf yr Awyrlu Brenhinol, RAF y Fali: yno y lleolir Maes Awyr Môn hefyd. Wrth adeiladu maes awyr yr Awyrlu yn 1942, cafwyd hyd i gasgliad pwysig o gelfi o Oes yr Haearn yn Llyn Cerrig Bach gerllaw. Cyfrifiad 2011Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4] Adeiladau a chofadeiladauCyfeiriadau
Dolen allanol
Trefi a phentrefi
Trefi |
Portal di Ensiklopedia Dunia