Priordy Penmon
Priordy Awstinaidd yn dyddio o ddechrau'r 13g yw Priordy Penmon, ger Llangoed, Ynys Môn ond mae ar safle llawer hŷn na hyn; cyfeiriad grid SH630807. Gerllaw'r priordy, ceir Ffynnon Seiriol ac olion tŷ bychan crwn a elwir yn Cell y Meudwy. Cysylltir y rhain a Sant Seiriol, o'r 6g. Ceir cofnod o Abaty Dinas Basing sy'n awgrymu bod Maelgwn Gwynedd wedi noddi mynachlog yma yn y 540au. Yn sicr, roedd clas yma o gyfnod cynnar, a chofnodir iddo gael ei ddinistrio gan y Llychlynwyr yn 917. Parhaodd y fynachlog i gael nawdd tywysogion Gwynedd, ac adeiladwyd rhan o'r eglwys bresennol gyda chymorth Owain Gwynedd tua chanol y 12g. Yn gynnar yn y 13g, anogodd Llywelyn Fawr y clas i ddod dan reolaeth yr urdd Awstinaidd. Dyddia rhan o'r eglwys a'r adeilad tri llawr oedd yn cynnwys y ffreutur a'r man cysgu o'r cyfnod hwn. Rhoddodd Llywelyn lawer o dir a breintiau i'r priordy. Roedd Ynys Seiriol yn eiddo i'r priordy. Diddymwyd y priordy yn 1537, ac fe'i rhoddwyd i deulu Bulkeley, Baron Hill, Biwmares. Mae eglwys y priordy, sydd wedi ei chysegru i Sant Seiriol, yn parhau i fod yn eglwys y plwyf. Croesau CeltaiddCeir yma hefyd dwy groes hynafol wedi'u lleoli, bellach, yn yr eglwys ac un yn y Priordy, sydd wedi'u cofrestru gan Cadw gyda rhif SAM: AN063.[1]
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia