Ewenni
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Bro Morgannwg, Cymru, yw Ewenni (Saesneg: Ewenny). Saif ar lan afon Ewenni. Y dref agosaf yw Pen-y-bont ar Ogwr, sy'n 3.1 km (1.9 milltir) i ffwrdd. Mae'r pentref yn enwog am adfeilion yr hen briordy a'i heglwys hynafol. Tyfodd y pentref o gwmpas Priordy Ewenni a'r eglwys ynghlwm wrtho. Codwyd Eglwys Sant Fihangel ar y dull Normanaidd yn y 12g gan yr arglwydd lleol William de Londres. Bu'r ardal yn enwog am ei diwydiant crochenwaith, sy'n dyddio i 1427 o leiaf. Tyfodd yno oherwydd y cyflenwad lleol o glai i wneud crochenwaith a phriddlestri coch a gwaith ceramig, digon o garreg i wneud yr odynnau a glo i'w tanio. Sefydlwyd Crochendy Ewenni yno yn y flwyddyn 1610 ac mae'n dal i weithio. Dywedir fod ysbryd yr Arglwyddes Wen yn aflonyddu cae a lôn ger y priordy ers yr Oesoedd Canol. Ceir gwarchodfa natur Coed-y-Bwl gerllaw, lle ceir hyd at chwarter miliwn cennin pedr "gwyllt" yn tyfu; cawsant eu plannu yno yn y 19g gan Mrs Nicholl, Merthyr Mawr. Ceir pont hynafol ger y gwarchodfa a godwyd gan y Rhufeiniaid yn ôl traddodiad (mae'n fwy tebygol ei bod yn ganoloesol). Brodor o Ewenni oedd y llenor Edward Mathews, awdur Hanes Siencyn Penhydd (1850).
Cyfrifiad 2011Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4] Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Trefi a phentrefi
Trefi |
Portal di Ensiklopedia Dunia