Llansanwyr

Llansanwyr
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBro Morgannwg Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4879°N 3.4506°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

Pentref bychan yng nghanol Bro Morgannwg yw Llansanwyr (Saesneg: Llansannor).

Gorwedd Llansanwyr ar lan ddwyreiniol Afon Ddawan ifanc, rhwng Ystradowen i'r dwyrain a phentref bychan Eglwys Fair y Mynydd i'r gorllewin, tua 3 milltir i'r gogledd o'r Bont-faen.

Bedd JPR Williams yn y mynwent Eglwys Senwyr

[1]]]

Yn yr Oesoedd Canol roedd yr eglwys yn gapel a berthynnai i eglwys Llanfleiddan.

Roedd y cyn chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol i Gymru, JPR Williams, yn byw yn y pentref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[2] ac yn Senedd y DU gan Alun Cairns (Ceidwadwr).[3]

Cyfeiriadau

 

Prefix: a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9

Portal di Ensiklopedia Dunia