Sain Dunwyd
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Bro Morgannwg, Cymru, yw Sain Dunwyd[1] (Saesneg: St Donats[2] neu English St Donats). Fe'i gelwir weithiau yn English St Donat's am fod eglwys arall gysegredig i Sant Dunwyd yn y Fro, sef Llanddunwyd (Welsh St Donat's), ger Y Bont-faen. Roedd Dunwyd yn gyfaill i Sant Cadog. Saif Yr As Fawr (Monknash) gerllaw, enw sy'n dyddio'n ôl i 1670. Lleolir y pentref fymryn i'r gorllewin o dref fechan Llanilltud Fawr. Mae plwyf Sain Dunwyd yn cynnwys pentref Marcroes (Marcross). Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Alun Cairns (Ceidwadwr).[4] Castell Sain DunwydCodwyd Castell Sain Dunwyd gan y teulu De Hawey yn y 12g, ar fryn ger y pentref. Heddiw mae'n gartref i Goleg yr Iwerydd (Atlantic College), sy'n ysgol breswyl ryngwladol. Gweler hefyd
Cyfrifiad 2011Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8] Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Trefi |
Portal di Ensiklopedia Dunia