Merthyr Dyfan
Pentref bychan a phlwyf yng nghymuned Y Barri, Bro Morgannwg, Cymru, yw Merthyr Dyfan.[1][2] Fe'i lleolir ar gwr gogleddol Y Barri ar bwys ffordd yr A4050, tua 6 milltir i'r de-orllewin o ddinas Caerdydd. Enwir y pentref ar ôl Sant Dyfan a cheir eglwys a gysegrir iddo yn y pentref. Gall y gair merthyr yn y Gymraeg olygu "eglwys (er cof am sant neu ar ei fedd)" a dyna a geir yma; ceir enwau lleol tebyg eraill yn ne Cymru, e.e. Merthyr Tudful, Merthyr Cynog, a Merthyr Mawr, a cheir yr enwau cytras merther yn y Gernyweg a merzher yn Llydaweg hefyd, i gyd mewn enwau lleoedd.[3] Honnir mai dyma un o'r canolfannau Cristnogol cynharaf yng Nghymru. Yn ôl traddodiad, cafodd ei seyfydlu yn 180 OC pan anfonwyd Dyfan a Ffagan i Gymru gan y Pab Eleutherius. Cysylltir yr eglwys gyda Sant Teilo hefyd, sy'n nawddsant y plwyf gyda Dyfan. Cafodd ei difrodi yn sylweddol yng nghyfnod y Diwygiad Protestannaidd a'i hadfer yn y 19g.[4] Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[5] ac yn Senedd y DU gan Alun Cairns (Ceidwadwr).[6] Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Trefi a phentrefi
Trefi |
Portal di Ensiklopedia Dunia