Englyn Proest Dalgron
Mae'r englyn proest dalgron yn un o Hen XXIV Mesur Cerdd Dafod. Fodd bynnag, canwyd y rhan fwyaf o awdlau enghreifftiol ar fesurau Dafydd Ddu Athro neu fesurau Dafydd ab Edmwnd, gan hepgor y mesur hwn. Mae'n un o dri englyn proest a nodir yng Ngramadeg Einion Offeiriad. Nodir yn y llawysgrifau: Tri rhyw englyn proest yssydd, EnwGan amlaf, caiff proest ei drin fel enw gwrywaidd, er enghraifft Proest llafarog. Noda Geiriadur Prifysgol Cymru ei fod yn enw gwrywaidd-benywaidd, ac yn y llawysgrifau sy'n cofnodi'r gramadegau cynnar, fe'i trinnir fel enw benywaidd, gan roi inni broest dalgron yn hytrach na phroest talgrwn. NodweddionLlunnir englyn proest dalgron gyda phedair llinell saith sillaf o hyd, gydag aceniad y prifodlau proest yn rhydd. Yn hytrach na odli, mae'r llinellau yn ffurfio proest dalgron â'i gilydd. Gall y llinellau derfynu gyda llafariad seml neu ddeusain dalgron heb neu gyda chytsain yn ei dilyn. Dyma enghraifft o waith Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd, gyda phob proest yn acennog a chyda llafariad ysgafn:[1] Eurawdd Iorwerth geinferth gân Ac eto, gan yr un bardd: Adeilwyd bedd, gwedd gwiwder, Sylwer mai cynghanedd sain bengoll yw'r llinell gyntaf; cynghanedd anghywir yn ôl safonau heddiw ond cynghanedd a ddefnyddid yn fynych gan y cywyddwyr cynnar. Cyfeiriadau
Gweler hefydLlyfryddiaeth
|
Portal di Ensiklopedia Dunia