Cerdd Dafod

Cerdd Dafod yw'r grefft o brydyddu neu gyfansoddi barddoniaeth Gymraeg mewn cyferbyniaeth รข Cherdd Dant (celfyddyd y cerddor). Enw arall arni yw Cerddwriaeth.

Hen ystyr y gair 'cerdd' oedd "crefft" neu "gelfyddyd", ond disodlwyd y gair yn yr ystyr honno gan y gair benthyg 'crefft' yn yr Oesoedd Canol (ceir 'cerdd' yn golygu 'crefft' yn Culhwch ac Olwen ond y gair benthyg 'crefft' a geir yn hytrach na 'cherdd' ym Mhedair Cainc y Mabinogi, sy'n ddiweddarach).

Er bod y term yn hen, Syr John Morris-Jones oedd y person cyntaf i ddosbarthu rheolau'r grefft yn ei gyfrol bwysig Cerdd Dafod, a gyhoeddwyd yn 1925.

Llyfryddiaeth

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

 

Prefix: a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9

Portal di Ensiklopedia Dunia