Rhupunt hir
Un o'r pedwar mesur ar hugain ydyw'r rhupunt hir, sef un o'r mesurau caeth. Mae iddo bedair rhan, pob un yn bedair sillaf yr un. Mae un llinell, felly, yn 16 sillaf. Y patrwm odlau yma ydy a, b, a, b. Mae diwedd chwarter cyntaf pob llinell yn odli gyda diwedd yr ail chwarter a'r trydydd chwarter; ac mae hwnnw yn creu cynghanedd (croes neu traws) gyda'r rhan olaf (y pedwerydd chwarter). Dyma bennill o waith Tudur Aled:
Gall pob traean ddiweddu'n acennog neu'n ddiacen ond fel arfer mae'r ddau draenau cyntaf o bob llinell yn ddiacen gyda'r odl yn odl ddwbwl, fel yn yr enghraifft uchod. Arferid hefyd cynganeddu'r ddwy ran gyntaf pan oeddent yn diweddu'n acennog. O edrych ar bob cwpled fel un llinell, gwelir eu bod hefyd yn ffurfio math o gynghanedd sain, sef y gynghanedd sain deirodl. Gweler hefyd |
Portal di Ensiklopedia Dunia