Cynllun Morgenthau
Roedd Cynllun Morgenthau ("The Morgenthau Plan") yn gynllun arfaethiedig ar gyfer dyfodol yr Almaen wedi'r Ail Ryfel Byd a ddatblygwyd gan Henry Morgenthau, Ysgrifennydd Trysorlys Unol Daleithiau America. Cyflwynwyd cynllun Morgenthau ar 9 Medi 1944 yn ystod ail gynhadledd Prydain-America yn Ail Gynhadledd Québec (11-16 Medi 1944) ac fe’i cefnogwyd gan Franklin D. Roosevelt, Arlywydd yr Unol Daleithiau a Winston Churchill, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig. Fe'i cynigwyr gyntaf gan Morgenthau mewn memorandwm o'r enw, Suggested Post-Surrender Program for Germany. Fe'i beirniadwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol UDA, Cordell Hull, a Gweinidog Tramor Prydain, Anthony Eden. Cafodd dderbyniad gwael yn f arn gyhoeddus a chylchoedd busnes America hefyd. Ar ddiwedd ym mis Tachwedd 1944 cafodd ei wrthod gan Roosevelt. Argymhellion Cynllun
Beirniadwyd y cynllun hwn yn eang, yn enwedig gan gabinet Prydain, o ystyried effeithiau trychinebus niwtraleiddio'r Almaen gan Gytundeb Versailles yn 1919. Yn raddol, adolygodd Roosevelt ei farn ar y cynllun hwn, a ddaeth i ben ym mis Medi 1946 [1][2] a'i ddiystyru'n ffurfiol ym mis Gorffennaf 1947 wedi Cytundeb Paris ac wrth i linellau y Rhyfel Oer rhwng y gorllewin (UDA, Prydain, Ffrainc) a'r Undeb Sofietaidd.[3] DadleuolYn 1947, ysgrifennodd Herbert Hoover: "There is the illusion that the New Germany left after the annexations can be reduced to a 'pastoral state'. It cannot be done unless we exterminate or move 25,000,000 people out of it." [4] Pan gyhoeddwyd Cynllun Morgenthau gan wasg yr UD ym mis Medi 1944, atafaelwyd arno ar unwaith gan lywodraeth Almaeneg Natsïaidd, a'i ddefnyddio fel rhan o ymdrechion propaganda yn saith mis olaf y rhyfel yn Ewrop a anelodd i argyhoeddi Almaenwyr i ymladd ymlaen. Ym 1951, rhoddwyd y gorau i ddatgymalu ffatrïoedd a therfynau cynhyrchu llym.[5] O'r flwyddyn 1947, strategaeth polisïau'r UDA oedd ailgodi "(a) stable and productive Germany" a dilynwyd hyn yn fuan gyda Chynllun Marshall.[6][7] Cynadleddau Pwysig Eraill
Dolenni
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia