Cynhadledd Quebec (1944)
Roedd Ail Gynhadledd Quebec yn gynhadledd filwrol lefel uchel a gynhaliwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd gan lywodraethau'r Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau. Fe'i hadwaenir hefyd wrth ei enw côd fel Cynhaded "OCTAGON". Cynhaliwyd y gynhadledd yn Ninas Quebec, rhwng 12-16 Medi 1944, a hon oedd yr ail gynhadledd i gael ei chynnal yn Quebec, ar ôl "QUADRANT" ym mis Awst 1943. Y prif gynrychiolwyr oedd Winston Churchill, Franklin D. Roosevelt a'r Penaethiaid Cyfun Staff. Prif Weinidog Canada, William Lyon Mackenzie King, oedd y gwesteiwr ond ni fynychodd y cyfarfodydd allweddol. Cynhaliwyd y cyfarfodydd yn La Citadel a Chateau Frontenac yn y ddinas.[1] Deillianau'r GynhadleddDaethpwyd i gytundeb ar y pynciau a ganlyn:
Trafodwyd hefyd Gynllun Morgenthau, Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau gan gynnwys ei gynllun i ymrannu yr Almaen a'i ffiniau cenedlaethol a dadiwydiannu'r wlad wedi'r Rhyfel. CofebAgorwyd heneb yn ninas Quebec ym 1998 i goffáu y ddwy gynhadledd 1943 a 1944. Mae y tu ôl i un o gatiau'r ddinas, y Porte Saint-Louis, sy'n arwain i'r hen dref hanesyddol. Cynadleddau pwysig eraill
CyfeiriadauDolenni allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia