Cynhadledd Quebec (1943)
Roedd Cynhadledd Quebec, a elwir hefyd wrth ei enw côd, Cynhadledd Quadrant, yn gynhadledd strategol filwrol gyfrinachol a gynhaliwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd gyda chyfranogiad llywodraethau o'r Deyrnas Unedig, Canada a'r Unol Daleithiau. Cynhaliwyd y gynhadledd yn ninas Quebec, Canada rhwng 17 - 24 Awst 1943.[1] Fe’i cynhaliwyd yng nghaer ddinesig y Château Frontenac. Y prif gyfranogwyr oedd Winston Churchill, Franklin D. Roosevelt a William Lyon Mackenzie King (Prif Weinidog Canada). Gwahoddwyd Stalin, arweinydd yr Undeb Sofietaidd, ond methodd â mynychu am resymau milwrol.[2] Noder, y cynhaliwyd ail Gynhadledd Quebec ym mis Medi 1944. Prif Ddeilliannau'r GynhadleddCytunodd Cynghreiriaid y Gorllewin i ddwysau bomio strategol ar yr Almaen a pharhau i adeiladu lluoedd yr Unol Daleithiau ym Mrydain cyn goresgyniad o Ffrainc. Ym Môr y Canoldir (ardal a ddenodd lawer o sylw gan Churchill), cytunwyd i ddefnyddio lluoedd mwy i orfodi'r Eidal allan o Gynghrair yr Echel a meddiannu'r wlad ac ynys Ffrengig Corsica. Penderfynwyd y dylid cyfyngu gweithrediadau yn y Balcanau i gyflenwi'r symudiadau gwrthiant, tra dylid camu i fyny gweithrediadau yn erbyn Japan i ddisbyddu adnoddau Japaneaidd, torri eu llinellau cyfathrebu i ffwrdd a sicrhau canolfannau datblygedig i ymosod ar brif ynysoedd Japan. Yn ychwanegol at y trafodaethau strategol a gyfathrebwyd i'r Undeb Sofietaidd a Chiang Kai-shek yn Tsieina, cyhoeddodd y gynhadledd hefyd farn ar y cyd ar Balesteina gyda'r nod o leihau tensiynau dros feddiannaeth Prydain yn dod yn fwyfwy annioddefol. Condemniodd y gynhadledd erchyllterau'r Almaen yng Ngwlad Pwyl hefyd. Trafodwyd ymddygiad tuag at gynnigion heddwch yr Eidal hefyd. Cytunwyd i gadw at y galw am ildio diamod. Trafodwyd gweithrediadau dilynol ar gyfer Ymgyrch Husky a gwblhawyd yn ddiweddar, a daethpwyd i gytundeb i barhau â'r prosiect goresgyniad ar dir mawr yr Eidal. Pwnc arall oedd rhaglen arfau niwclear Prydain (gair cod "Tube Alloys"). Yn y cyd-destun hwn, llofnodwyd Cytundeb Technoleg Niwclead Québec gan Roosevelt a Churchill, ac yn ôl hynny dylai ymchwilwyr Prydain a Chanada gymryd rhan ym mhrosiect Manhattan America. Cytunwyd ar ddefnydd arfaethedig o Ynysoedd yr Azores ar gyfer cludo deunydd rhyfel o'r Unol Daleithiau i Brydain Fawr.[3] Cynhaliwyd ail Gynhadledd Quebec ym mis Medi 1944. Oriel
DolenniCynadleddau Pwysig Eraill
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia