Coffi
![]() Diod boblogaidd a wneir drwy rostio ac ychwanegu dŵr poeth at ffa'r planhigyn 'coffea' yw coffi (hen air Cymraeg: crasddadrwydd);[1]. Fel arfer mae'r ffa wedi'u rhostio a'u malu'n fân cyn eu gwerthu i'r cwsmer. Tyfir y planhigyn mewn dros 70 o wledydd, gan gynnwys America, de-ddwyrain Asia, India ac Affrica. Ceir dau brif fath o goffi: arabica a robusta. Tarddiad y gair "coffi"O'r gair Arabeg قوة quw-wa "nerth", y daeth y gair Arabeg قهوة qahwa 'coffi'. O'r gair hwn y daeth y Tyrceg kahveh, wedyn caffè yn Eidaleg. O hwn y daeth y gair Saesneg coffee a gafodd ei fenthyg i'r Gymraeg fel 'coffi'. Cyheoddwyd y gair 'crasddadrwydd' yn gyntaf yn Blodeu-gerdd Cymry gan David Jones yn 1759: "Ond gresyn fod Haidd, Gwinwydd, Llewyg y Blaidd, Ffwgws, Ystrew a Chrâsddadrwydd yn amharu’r hŵyl, ac yn dwyn Aroan yr hên Frutaniaid! lle’r oeddynt gynt yn byw yn hŷn, yn iachach, ac yn gryfach ar laeth, ymenyn, a mêl, na’i hôll Sothach afiach afreidiol alltudaidd pellennig." Darganfyddiad coffi: Chwedl Kaldi'r bugailDywedir y cafodd coffi ei ddarganfod gan fynach yn yr 8g. Roedd bugail o'r enw Kaldi yn bugeilio geifr ar wastatir uchel Jebel Sabor yn yr Iemen. Roedd y geifr yn sionc iawn yn llamu ac yn dawnsio drwy'r nos. Pan ddigwyddodd y pennaeth Shadhili heibio fe ofynnodd pam oedd y geifr mor sionc. Dywedodd Kaldi eu bod wedi bod yn bwyta math o geirios coch oedd yn tyfu'n wyllt. Pan ddywedodd Shadhili y stori wrth fynach fe aeth i hela'r ceirios er mwyn gwneud arbrofiadau. Fe ddarganfu y mynach mai rhywbeth yn y garreg oedd yn cadw'r geifr yn effro. Ar ôl rhostio'r cerrig yn y ffwrn, roedd e'n medru eu malu a'u rhoi mewn dwr poeth i wneud diod. Roedd y mynaich yn yfed y ddiod hon er mwyn deffro i addoli yng nghanol y nos. Fe alwasant y ddiod yn quw-wa ( قوة ) gair Arabeg am nerth. Planhigion coffiLlwyn neu brysgwydden o'r rhywogaeth COFFEA yw planhigyn coffi. O'r 60 planhigyn gwahanol mae yna ddau bwysig;- COFFEA ARABICA, planhigyn arabica a COFFEA CANEPHORA, planhigyn robusta. Mae gan y planhigyn flodau bychainh gwynion gyda 5 neu 6 phetal, yn debyg i'r siasmin. Fe fydd y ceirios yn dechrau'n wyrdd, wedyn fe drônt yn felyn ac yn goch. Mae dwy garreg yn y geiriosen wedi eu gwahanu gan rych. Hon yw'r ffäen goffi. Gellir gweld y dail, y blodau a'r ceirios ar y planhigyn ar yr un pryd. Hanes coffiYn y 15g roedd y pererinion Mohametanaidd a oedd yn teithio i Feca yn dosbarthu coffi o'r Iemen ar draws Arabia. Cyn y 18g nad oedd coffi yn cael ei yfed y tu allan i'r byd Arabaidd. Yn 1680 fe hwyliodd morwyr Holandaidd o Moca (Al-Mukha) yn yr Iemen gyda phlanigion coffi i Sri Lanca, ymlaen i India, ac wedyn i wladfeydd Holandaidd Asia. O Djakarta yn Java fe dygodd morwyr Holandaidd blanhigion coffi gyda nhw yn ôl i'r Iseldiroedd lle y cânt eu ddiwyllio yn nhai gwydr gerddi llysieuol Amsterdam. Ar ddechrau'r 18g, yr Iseldiroedd oedd yr unig wlad yn Ewrop i gynhyrchu coffi. Ymlaen i Ffrainc; pan gafodd planhigion coffi eu cynnig i Louis IV fe roddodd nhw o dan ofal llysieuydd gardd y brenin (Jardin du Roi; ers y chwyldro - Jardin des Plantes). Ym mis Mai 1723 fe hwyliodd capten Gabriel DeClieu i Martinique yn India'r Gorllewin gyda phlanhigion coffi. Roedd y fordaith yn llawn problemau. I ddechrau, roedd y morwyr Holandaidd am droi'n ôl, wedyn fe hwyliasant i mewn i stormydd. Ar ôl hynny roedd y tywydd mor dawel fel nad oedd gwynt i wthio'r llong ymlaen. Roedd dŵr yfed yn brin ac oedd DeClieu yn gorfod arllwys ei gyfran ddŵr ar y planhigion i'w cadw'n fyw. Er hynny, roedd y cynhaeaf yn llwyddiannus iawn ac fe aethant ymlaen i gynhyrchu coffi ar ynysoedd eraill y Caribï a'i allforio'n ôl i Ewrop. Yn 1727 aethant ymlaen i Frasil, cynhyrchydd coffi mwyaf y byd heddiw. Lle mae coffi'n tyfu.Lle mae coffi'n tyfu'n naturiolMae coffi'n tyfu'n naturiol yn Iemen ac mewn llain ar draws Affrica, o Somalia drwy Ethiopia, Cenia, Wganda, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Congo hyd at Gabon a hefyd yn Arfordir Ifori a Liberia. Lle mae coffi'n cael ei ddiwyllioGellir diwyllio coffi yn y trofannau. Bydd y rhan fwyaf o goffi'r byd yn cael ei gynhyrchu ym Mrasil, Fietnam a Cholumbia. Arabica![]() Cynhyrchir coffi Arabica ym Mecsico, Gwatemala, El Salvador, Hondwras, Nicaragwa, Costa Rica, Jamaica, Colombia, Feneswela, Ecwador, Periw, Brasil, Cenia, Ethiopia, India, Sri Lanca, Indonesia, Papua Gini Newydd a'r Philipinau. Robustaneu Goffi'r Congo Cynhyrchir coffi Robusta ym Mrasil, Arfordir Ifori, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Wganda, Simbabwe, Madagasgar, Iemen, India, Indonesia a'r Philipinau. LiberiaCynhyrchir coffi Liberia yn Liberia ond ni chynhyrchir llawer iawn ohono. Sut mae coffi'n cael ei gynhyrchuEchdyniad y ffaDull gwlybFel hyn y bydd y coffi gorau yn cael ei baratoi. Cânt y ceorios eu trochi mewn basnau o ddŵr a'u gadael i chwyddo drwy'r nos. Wedyn, cânt y mwydion eu gwahanu ac ar ôl hynny fe gânt eu gadael i'r ffa eplesu, a'u golchi wedyn gyda llawer o ddŵr. Dull sychDyfnyddir y dull hwn ym Mrasil ac yn Affrica lle mae dŵr yn brin. Taenir y ceirios am bythefnos ar arwynebedd mawr o goncrit neu ar ddaear wedi ei churo'n galed nes bydd y mwydion yn sychu yn yr haul. Rhostio'r ffaCyn rhostio mae ffa coffi yn wyrdd. Fel hyn y cânt eu hallforio neu eu mewnforio. Mae'r coffi gwyrdd yn cael ei rostio wrth eu cynhesu'n raddol hyd at 220 °C. Wrth golli dŵr fe fydd y ffäen yn chwyddo. Rhaid oeri'r ffa yn syth, neu fe losgant. Amrywiaethau o goffiArabica a RobustaMae yna ddau brif rywogaeth o goffi. Arabica, a Robusta (Coffi'r Congo). Mae blas cryfach ar robusta ac mae ynddo ddwy waith gymaint o gaffein a cholesterol. Coffi enydusMae coffi enydus yn gyfleus iawn ac er bod y blas ddim cystal, mae'n boblogaidd iawn ym Mhrydain. Nid oes cymaint o gaffein ynddo. Heddiw mae coffi enydus wedi ei sychrewi, hynny yw, dihydradu wrth ei rewi mewn gwactod. Coffi wedi ei ddigaffeineiddioMae rhai sydd am osgoi caffein yn yfed coffi wedi ei ddigaffeineiddio. Gellir trin y ffa coffi gwyrddion gyda thoddydd hydrocarbon wedi ei glorineiddio. Yn diweddarach fe ddefnyddir carbon deuocsid o dan wasgedd mawr. Mae'r dull hwn ddim yn gadael blas toddydd ar y coffi. Gan fod y broses o ddigaffeineiddio yn gwanhau blas y coffi, fe ddefnyddir robusta fel arfer oherwydd bod blas cryfach arno. Nid yw coffi wedi ei ddigaffeineiddio ddim yn well i'r galon gan ei fod yn cael ei wneud gyda ffa robusta sy'n cynnwys llawer mwy o golesterol. Nid yw coffi wedi ei ddigaffeineiddio yn hollol rhydd o gaffein ychwaith. Yn lle coffiYn lle coffi gellir rhostio gwreiddiau ysgall y meirch neu ysgellog a'u malu. Mae'r gyfraith yn mynnu bod rhaid dangos yn glir ar y pecyn bod rhywbeth arall heblaw coffi ynddo. (Er mwyn rhagor o wybodaeth ewch i'r Geirfa coffi Masnach deg![]() Cafodd y label Masnach Deg ei greu yn yr Iseldiroedd yn yr 1980au gan y cymdeithas Max Havelaar. Defnyddiodd y label yn gyntaf ar goffi o Mecsico yn 1986 i ddangos fod y coffi yn cyfateb i safonau rhyngwladol masnach deg. Malwr coffi![]() Dyma falwr traddodiadol coffi. Potiau a pheiriannau coffiIbric / Coffi Twrcaidd![]() Yn ôl pob tebyg, hwn ydy'r dull mwya hynafol o wneud coffi. Mae Ibric (o'r Arabeg ibrik = pot coffi) yn debyg i sospan fach neu phiser prês gyda gwaelod wastad a dolen hir. Mae'n draddodiadol i yfed coffi Twrcaidd mewn powlen fach yn hytrach na chwpan. Er mwyn gwneud coffi Twrcaidd mae rhaid malu'r coffi'n fân fel blawd. Rhoddir dwy lwyaid o siwgwr yng ngwaelod yr ibric a'i lenwi â dŵr oer hyd at waelod y gwddf. Rhoddir dwy lwyaid o goffi i nofio ar ben y dŵr. Ni throi'r coffi, gadewir iddo nofio. Rhoddir yr ibric i boethi ar y tywod poeth ger môr y canoldir. Os nad yw hwn yn gyfleus, gosodir ef ar y stof. Pan fydd y dŵr yn ddigon poeth bydd ewin yn codi yng ngwddf y pot. Gwylir e'n ofalus. Pan fydd yr ewin yn cyrraedd y top, codir yr ibric o'r gwres yn union. Ni adewir iddo ferwi drosodd. Troir y coffi gyda llwy nes bod yr ewin yn gostwng. Ail boethir yr ibric a gwneir yr un peth eto. Ail boethir ef am y trydydd gwaith ond ni throi'r coffi y tro hwn. Yn ôl rhai, mae rhaid poethi'r coffi pum gwaith, ond beth bynnag, ni throir ef y tro olaf. Gadweir yr ibric am funud er mwyn i'r gwehillion suddo i'r gwaelod ac arllwysir y coffi i'r cwpanau yn ofalus. Ni adewir y gweddillion arllwys i mewn i'r cwpanau. Gellir ychwanegu llaeth ond mae siwgwr ynddo'n barod. Melior / Cafetière / Gwasg Ffrengig![]() Gair Ffrangeg am bot coffi yw cafetière. Bialetti / Napolitane / Espresso pen stof / Tebot Moka![]() (Gall pot Moca, olygu percoladur hefyd.) ![]() Dyfeisiwyd hwn gan Ffrancwr ond yn yr Eidal y daeth yn boblogaidd pan ymddangosodd yn 1933 dan yr enw "Bialetti"; maent yn boblogaidd yn Sbaen hefyd. Mae'r potyn Tebot Moka mewn dwy ran sy'n sgriwio i'w gilydd. Tywelltir dŵr yn y rhan isod (A) a gosodir twmffat (B) gyda hidl ynddo. Rhoddir y coffi yn y twmffat a'i wasgu gyda'r llwy. Sgriwir y potyn (C) yn dynn ar ei ben a'i osod ar y stof. Pan fydd y dŵr yn dechrau berwi bydd gwasgedd yr ager yn gwthio'r dŵr poeth drwy'r coffi ac i mewn i'r potyn uchaf (C). Mae'r coffi'n barod yn syth. Er bod hwn yn gwneud diod derbyniol, dydy e ddim yn gwneud y coffi gorau gan fod y dŵr yn rhy boeth ac yn dueddol i ddifetha'r blas. ConaDarllawydd gwactod (vacuum brewer) ydy hwn, wedi ei ddyfeisio gan Sais. Gan fod yr offeryn wedi'i wneud o wydr, does dim metal nag unrhyw ddefnydd arall i ymyrryd ar flas y coffi. Mae twmffat mawr o wydr gyda hidlydd yn ffitio'n ddiddos yng ngwddf potyn gwydr sy'n hanner llawn o ddŵr oer. O dan y potyn mae lamp fach sy'n llosgi gwirod methyl. Pan fydd yr awyr yn twymo ac yn chwyddo fe fydd e'n gwthio'r dŵr poeth drwy diwben gwydr i'r twmffat uwchben. Os symudir y lamp fe fydd yr awyr yn oeri a chreu gwactod sy'n sugno'r dŵr poeth drwy'r coffi ar ben yr hidlydd. Mae'r system hon yn sicrhau bod tymheredd y dŵr yn gywir. Pan fydd y coffi'n barod gellwch godi'r twmffat o'r potyn a'i rhoi i'r naill ochr. Mae hwn yn gwneud coffi ardderchog. Dyma ffordd rhamantus o yfed coffi, gan fod y lamp fechan yn debyg i gannwyll ar y bwrdd. Percoladur(O'r gair Lladin percolare = hidlo) Mae'r coffi mewn hidl o ddur ddi-staen o dan ceuad y pot. Pan fydd y dŵr yn poethi fe fydd e'n codi drwy tiwben, rhedeg drwy'r hidl ac yn ôl i'r pot. Fe fydd hwn yn ail-godi a rhedeg drwy'r hidl ambell waith a chryfhau'r coffi yn raddol. Mae coffi percoladur yn lân iawn ond braidd yn wan. Caiff ffa coffi mâl eu dodi mewn hidlydd coffi (papur fel rheol, ond hefyd dur distaen) a caiff dŵr berw ei arllwys drosto a diferi'n araf i gwpan, mẁg neu debot oddi tano i'w yfed gyda neu heb laeth. Mae'r dull yma'n boblogaidd yn y cartref. Mae modd defnyddio gwaddod y ffa coffi fel compost neu wrtaith. ![]() (Gair Eidaleg =gwasgu allan.) Mae pwmp yn gwasgu ergyd o ddŵr poeth drwy hidl bach yn llawn ffa coffi wedi malu, yn syth i'r cwpan sy wedi ei osod yn union o dan yr hidl. Gwneud coffi da
Coffi yn yr Eidal.Os gofynnwch chi am goffi mewn unrhyw wlad fe gewch chi'r coffi wedi wneud yn y ddull lleol os ddywedwch chi ddim mwy. Er enghraifft, pan ofynnwch am goffi yng Nghymru fe fydd e'n cyrraedd mewn cwpan gyda llaeth a siwgwr. Os gofynnwch am café yn Ffrainc, gewch chi goffi bach du espresso mewn demitasse. Os gofynnwch am caffè neu caffè normale yn yr Eidal fe gewch chi espresso bach du hefyd, ond anarferol iawn fydd rhywun yn gofyn am goffi heb ddweud sut fyddyn nhw'n ei hoffi. Mae blas arbennig hefyd ar goffi Eidalaidd gan fod nhw'n dueddol i gymysgu 30% Robusta gyda 70% Arabica. Fe welwch chi goffi Eidalaidd Arabica pur ar werth hefyd. Gweler y rhestr coffi isod am syniadau. Rhestr coffiMewn demitasse![]()
Mewn cwpan
Mewn cwpan mawr
Mewn gwydr
(Er mwyn gweld rhagor ewch i'r Geirfa coffi.) Effaith coffi ar y corff
Cwpanau AilddefnyddYn sgîl tŵf anhygoel mewn yfed y gwahanol fathau o goffi espresso y tu allan i'r caffe draddodiadol, gwelwyd tŵf mewn cwpanau untro plastig a chardfwrdd gan ychwanegu ar sbwriel tirlenwi. Mae bellach sawl cwmni yn cynhyrchu cwpanau clud sy'n gwpannau ailddefnydd sy'n cadw'r diod yn gynnes, yn declun gwydn a gellir yfed y coffi yn syth o'r gwpan. Ffeithiau eraill
Gweler hefydCyfeiriadau |
Portal di Ensiklopedia Dunia