Brandi
![]() Gwirod a wneir o wahanol fathau o ffrwythau, ond yn arbennig grawnwin, yw brandi. Daw'r gair o'r Iseldireg brandewijn. Mae'n cynnwys rhwng 35–60% o alcohol, o ran ei gyfaint, (70–120 'prawf' UDA) a chaiff ei yfed, fel rheol, wedi cinio er mwyn cynorthwyo i dreulio'r bwyd. Fel arfer, yfir brandi ar dymheredd yr ystafell, ond yn aml, fe'i rhoddir mewn gwydr llydan er mwyn i wres y llaw godi ei dymheredd ychydig. I gyflymu'r broses hon, gellir rhoi gwydriad o frandi mewn popty microdon am tua 5 eiliad. Ceir llawer o wahanol fathau o frandi o rawnwin, wedi eu cynhyrchu mewn nifer o wledydd. Cysylltir y ddiod yn arbennig a Ffrainc, lle mae mathau enwog o frandi yn cynnwys Cognac ac Armanac. Ymhlith y gwledydd eraill sy'n nodedig am gynhyrchu brandi mae Sbaen, yn enwedig ardal Jerez de la Frontera, ac Armenia.[1][2] Cedwir y goreuon am gyfnod hir mewn casgenni prenb, derw, ond defnyddir 'caramel' ar eraill er mwyn tywyllu lliw'r hylif iddo edrych yn hen. Gellir defnyddio nifer o ffrwythau eraill, ar wahân i rawnwin, i gynhyrchu brandi, er enghraifft Calvados, a wneir yn Normandi o afalau; math arall yw brandi pomace.[1][3] Gelwir y diodydd hyn yn eau de vie (sef y term Ffrangeg am "ddŵr y bywyd"). Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia