Liberia
Gwlad ar arfordir Gorllewin Affrica yw Liberia, yn swyddogol Gweriniaeth Liberia. Mae'n ffinio â Sierra Leone i'r gogledd-orllewin, Gini i'r gogledd, Arfordir Ifori i'r dwyrain, a Chefnfor yr Iwerydd i'r de a'r de-orllewin. Mae ganddi boblogaeth o tua 5.5 miliwn ac yn gorchuddio arwynebedd o 43,000 milltir sgwar (111,369 km2). Saesneg yw'r iaith swyddogol. Siaredir dros 20 o ieithoedd brodorol o fewn y wlad, gan adlewyrchu'r amrywiaeth ethnig a diwylliannol. Y brifddinas a'r ddinas fwyaf yw Monrovia. Dechreuodd Liberia yn gynnar yn y 19g fel prosiect gan Gymdeithas Gwladychu America (ACS), a gredai y byddai pobl dduon yn cael gwell cyfleoedd a mwy o ryddid yn Affrica nag yn yr Unol Daleithiau. Rhwng 1822 a dechrau Rhyfel Cartref America ym 1861, symudodd mwy na 15,000 o Americanwyr Affricanaidd a ryddhawyd ac a aned yn rhydd, ynghyd â 3,198 o Affro-Caribïaid, i Liberia. Gan ddatblygu'n raddol hunaniaeth Amerig-Liberaidd, cariodd y gwladfawyr eu diwylliant a'u traddodiad gyda nhw tra'n gwladychu'r boblogaeth frodorol. Dan arweiniad yr Amerig-Liberiaid, datganodd Liberia annibyniaeth ar 26 Gorffennaf 1847, a chafodd ei gydnabod gan yr Unol Daleithiau tan 5 Chwefror 1862. Liberia oedd y weriniaeth Affricanaidd gyntaf i gyhoeddi ei hannibyniaeth a hi yw gweriniaeth fodern gyntaf a hynaf Affrica. Ynghyd ag Ethiopia, roedd yn un o'r ddwy wlad yn Affrica i gadw'i sofraniaeth a'i hannibyniaeth yn ystod y "Yr Ymgiprys am Affricaa" trefedigaethol Ewropeaidd. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ochrodd Liberia gydag Unol Daleithiau yn erbyn yr Almaen Natsïaidd ac yn ei dro derbyniodd fuddsoddiad Americanaidd sylweddol i gryfhau ei seilwaith.[1] Anogodd yr Arlywydd William Tubman newidiadau economaidd a gwleidyddol a gynyddodd ffyniant a phroffil rhyngwladol y wlad; roedd Liberia'n un o sylfaenwyr Cynghrair y Cenhedloedd, y Cenhedloedd Unedig, a Sefydliad Undod Affrica. Nid oedd y gwladfawyr Amerig-Liberaidd yn uniaethu'n dda â'r bobloedd brodorol y daethant ar eu traws. Ysbeiliwyd aneddiadau trefedigaethol gan y Kru a'r Grebo. Ffurfiodd y gwladfawyr Amerig-Liberiaid yn grwp elitaidd bach a oedd â grym gwleidyddol anghymesur, tra bod Affricanwyr brodorol wedi'u heithrio o ddinasyddiaeth genedigaeth-fraint yn eu gwlad eu hunain tan 1904.[2][3] Yn 1980, arweiniodd tensiynau gwleidyddol oherwydd rheolaeth William R. Tolbert mewn coup milwrol, yn nodi diwedd rheolaeth Amerig-Liberia ac atafaelu pŵer arweinydd brodorol cyntaf Liberia, Samuel Doe. Llofruddiwyd Doe yn 1990 yng nghyd-destun Rhyfel Cartref Cyntaf Liberia, rhwng 1989 a 1997 ac etholwyd arweinydd y gwrthryfelwyr Charles Taylor yn arlywydd. Ym 1998, cychwynodd Ail Ryfel Cartref Liberia yn erbyn ei unbennaeth ei hun, a chafodd Taylor ei ddymchwel erbyn diwedd y rhyfel yn 2003. Arweiniodd y ddau ryfel at farwolaeth 250,000 o bobl (tua 8% o'r boblogaeth) a dadleolwyd llawer mwy, gydag economi Liberia yn crebachu 90%.[4] Arweiniodd cytundeb heddwch yn 2003 at etholiadau democrataidd yn 2005. Mae'r wlad wedi aros yn gymharol sefydlog ers hynny. Llywodraeth a gwleidyddiaethMae'r arlywydd yn gwasanaethu fel pennaeth y llywodraeth, pennaeth y wladwriaeth, a phrif bennaeth Lluoedd Arfog Liberia. Ymhlith dyletswyddau eraill yr arlywydd mae llofnodi neu rhoi feto ar filiau deddfwriaethol, rhoi pardwnau, a phenodi aelodau'r Cabinet, barnwyr a swyddogion cyhoeddus eraill. Ynghyd â'r is-lywydd, etholir yr arlywydd i dymor o chwe blynedd trwy bleidlais fwyafrifol mewn system dwy rownd a gall wasanaethu hyd at ddau dymor yn y swydd. MilwrolMae gan Luoedd Arfog Liberia (AFL) 2,010 o bersonél gweithredol yn 2023, gyda'r rhan fwyaf ohonynt wedi'u trefnu i'r canlynol:
Mae yna hefyd Warchodlu Arfordir Cenedlaethol bychan gyda 60 o bersonél a nifer o longau patrol.[5] Roedd gan yr AFL Adain Awyr, ond mae ei holl awyrennau a chyfleusterau wedi bod yn segur ers y rhyfeloedd cartref. Mae yn y broses o ail-greu ei Adain Awyr gyda chymorth Awyrlu Nigeria.[6] Mae Liberia wedi anfon ceidwaid heddwch i wledydd eraill ers 2013 fel rhan o deithiau'r Cenhedloedd Unedig neu ECOWAS, gyda'r mwyaf yn uned milwyr traed ym Mali, a niferoedd llai o bersonél yn Swdan, Guinea-Bissau, a De Swdan. Mae tua 800 o 2,000 o bersonél yr AFL wedi cael eu hanfon i Mali mewn sawl cylchdro cyn i genhadaeth y Cenhedloedd Unedig yno ddod i ben yn Rhagfyr 2023.[7] Yn 2022 roedd gan y wlad gyllideb filwrol o US$18.7 miliwn.[5] Gorfodi'r gyfraith a throsedd'Heddlu Cenedlaethol Liberia' yw heddlu cenedlaethol y wlad. Yn Hydref 2007 roedd 844 o swyddogion mewn 33 o orsafoedd yn Sir Montserrado, sy'n cynnwys Monrovia.[8] Mae Academi Hyfforddi Genedlaethol yr Heddlu yn Ninas Paynesville.[9] Ceir cryn hanes o lygredd ymhlith swyddogion yr heddlu, ac mae hyn wedi lleihau ymddiriedaeth y cyhoedd ynddynt. Nodweddir y diogelwch mewnol gan anghyfraith cyffredinol ynghyd â'r perygl y gallai cyn-ymladdwyr yn y rhyfel cartref ailsefydlu milisia i herio'r awdurdodau sifil.[10] Mae trais rhywiol ac ymosodiadau rhywiol yn digwydd yn Liberia ac ynddi hi mae'r nifer mwyaf o drais rhywiol yn erbyn menywod yn y byd. Trais rhywiol yw’r drosedd mwyaf cyffredin o bob ymyrraedd rhywiol. Merched glasoed sy'n dioddef fwyaf ac mae bron i 40% o'r troseddwyr yn ddynion sy'n oedolion y mae'r dioddefwyr yn eu hadnabod.[11] Mae cyfunrywioldeb gwrywaidd a benywaidd yn anghyfreithlon yn Liberia.[12][13] Ar 20 Gorffennaf 2012, pleidleisiodd senedd Liberia yn unfrydol i ddeddfu deddfwriaeth i wahardd a throseddoli priodasau o'r un rhyw.[14] LlygreddMae llygredd yn endemig ar bob lefel o lywodraeth Liberia.[15] Pan ddaeth yr Arlywydd Sirleaf i'w swydd yn 2006, cyhoeddodd mai llygredd oedd "y gelyn cyhoeddus mawr." Yn 2014, dywedodd llysgennad yr Unol Daleithiau i Liberia fod llygredd yno yn niweidio pobl trwy "gostau diangen i gynhyrchion a gwasanaethau sydd eisoes yn anodd i lawer o Liberiaid eu fforddio".[16] Sgoriodd Liberia 3.3 ar raddfa o 10 ar Fynegai Canfyddiadau Llygredd 2010. Roedd hyn yn golygu ei fod 87fed allan o 178 o wledydd ledled y byd ac yn 11fed o 47 yn Affrica Is-Sahara.[17] Roedd y sgôr hwn yn cynrychioli gwelliant sylweddol ers 2007, pan sgoriodd y wlad 2.1 ac yn 150fed allan o 180 o wledydd.[18] Wrth ddelio â swyddogion y llywodraeth sy'n wynebu'r cyhoedd, dywed 89% o Liberiaid eu bod wedi gorfod talu llwgrwobr, y ganran genedlaethol uchaf yn y byd yn ôl Baromedr Llygredd Byd-eang 2010 y sefydliad.[19] EconomiMae Banc Canolog Liberia yn gyfrifol am argraffu a chynnal doler Liberia, prif arian cyfred Liberia (mae doler yr Unol Daleithiau hefyd yn arian cyfreithiol yn Liberia).[20] Liberia yw un o wledydd tlotaf y byd, gyda chyfradd cyflogaeth ffurfiol o ddim ond 15%.[21] Cyrhaeddodd CMC y pen ei uchafbwynt yn 1980 yn US$496 pan oedd yn debyg i un yr Aifft (ar y pryd).[22] Yn 2011, CMC enwol y wlad oedd US$1.154 biliwn, tra bod CMC enwol y pen yn US$297, sef y trydydd isaf yn y byd.[23] Yn hanesyddol mae economi Liberia wedi dibynnu'n fawr ar gymorth tramor, buddsoddiad tramor uniongyrchol ac allforio adnoddau naturiol fel mwyn haearn, rwber, a phren.[24] DemograffegYn ôl Cyfrifiad 2017, roedd Liberia yn gartref i 4,694,608 o bobl, ychydig dros filiw yn fwy na Chymru.[25] O'r rheini, roedd 1,118,241 yn byw yn Sir Montserrado, y sir fwyaf poblog yn y wlad a lleoliad y brifddinas Monrovia. Mae gan Ardal Monrovia Fwyaf 970,824 o drigolion.[26] Sir Nimba yw'r ail sir fwyaf poblog, gyda 462,026 o drigolion.[26][27] Grwpiau ethnigSaesneg yw'r iaith swyddogol ac mae'n gwasanaethu fel lingua franca Liberia.[28] O 2022 ymlaen, siaredir 27 o ieithoedd brodorol yn Liberia. Mae Liberiaid hefyd yn siarad amrywiaeth o dafodieithoedd creol a elwir gyda'i gilydd yn Saesneg Liberaidd.[28] AddysgYn 2010, amcangyfrifwyd bod cyfradd llythrennedd Liberia yn 60.8% (64.8% ar gyfer dynion a 56.8% ar gyfer menywod).[29] Mewn rhai ardaloedd mae addysg gynradd ac uwchradd yn rhad ac am ddim ac yn orfodol o 6 i 16 oed, er bod gorfodi presenoldeb yn beth prin.[30] Mewn ardaloedd eraill mae'n ofynnol i blant dalu ffi dysgu i fynychu'r ysgol. Ar gyfartaledd, mae plant yn cyrraedd 10 mlynedd o addysg (11 i fechgyn ac 8 i ferched). Mae sector addysg y wlad yn cael ei rwystro gan ysgolion a chyflenwadau annigonol, yn ogystal â diffyg athrawon cymwys.[31] Darperir addysg uwch gan nifer o brifysgolion cyhoeddus a phreifat. Prifysgol Liberia yw prifysgol fwyaf a hynaf y wlad. Wedi'i lleoli yn Monrovia, agorodd y brifysgol ym 1862. Heddiw mae ganddi chwe choleg, gan gynnwys ysgol feddygol ac unig ysgol y gyfraith y wlad, sef Ysgol y Gyfraith Louis Arthur Grimes. Yn 2009, sefydlwyd Prifysgol Tubman yn Harper, Sir Maryland fel yr ail brifysgol gyhoeddus yn Liberia.[32] Ers 2006, mae'r llywodraeth hefyd wedi agor colegau cymunedol yn Buchanan, Sanniquellie, a Voinjama.[33][34][35] Fel canlyniad i brotestiadau myfyrwyr yn hwyr yn Hydref 2018, diddymodd yr arlywydd newydd, George Weah ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr israddedig mewn prifysgolion cyhoeddus yn Liberia.[36] PolygamiMae traean o ferched priod Liberia rhwng 15-49 oed mewn priodasau amlbriod ac mae'r gyfraith yn caniatáu i ddynion gael hyd at bedair gwraig. ChwaraeonY gamp fwyaf poblogaidd yn Liberia yw pêl-droed, gyda'r cyn-Arlywydd George Weah yn athletwr enwoca'r genedl. Hyd at 2013 ef oedd yr unig Affricanwr i gael ei enwi yn Chwaraewr Byd y Flwyddyn FIFA.[37] Mae tîm pêl-droed cenedlaethol Liberia wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Cenhedloedd Affrica ddwywaith, yn 1996 ac yn 2002. Yr ail gamp fwyaf poblogaidd yn Liberia yw pêl-fasged. Mae tîm pêl-fasged cenedlaethol Liberia wedi cyrraedd yr AfroBasket ddwywaith, yn 1983 ac yn 2007. Yn Liberia, mae Canolfanau Chwaraeon Samuel Kanyon Doe yn stadiwm amlbwrpas. Mae'n cynnal gemau rhagbrofol Cwpan y Byd FIFA yn ogystal â chyngherddau rhyngwladol a digwyddiadau gwleidyddol cenedlaethol.[38] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia