Priodas gyfunrywPriodas rhwng dau berson o'r un rhyw a/neu hunaniaeth rhyw ydy priodas gyfunryw (a elwir hefyd yn priodas un-rhyw a phriodas hoyw). Cyfeirir weithiau at gydnabyddiaeth gyfreithiol o briodasau cyfunryw neu'r posibilrwydd o gynnal priodas gyfunryw fel cydraddoldeb priodas neu briodas gyfartal, yn benodol gan gefnogwyr.[1][2][3][4][5][6] Daeth y deddfau modern cyntaf am briodasau cyfunryw i rym yn ystod y degawd cyntaf o'r 21g. Ers mis Mai 2013, mae 18 o wledydd (Yr Ariannin, Gwlad Belg, Brasil, Canada, Denmarc,[nb 1] Ffrainc, Gwlad yr Iâ, Yr Iseldiroedd,[nb 2], Lwcsembwrg, Norwy, Portiwgal, Sbaen, De Affrica, Sweden, Cymru a Lloegr, Seland Newydd[nb 3][7][8], Wrwgwái, Yr Alban a sawl awdurdodaeth is-genedlaethol (rhannau o Fecsico a'r Unol Daleithiau), yn caniatáu cyplau cyfunryw i briodi. Mae mesurau sy'n amlinellu cydnabyddiaeth gyfreithlon o briodasau cyfunryw wedi cael eu cyflwyno, dan ystyriaeth, neu wedi eu llwyddo o leiaf un tŷ deddfwriaethol yn Andorra, y Ffindir, Yr Almaen, Iwerddon, Nepal a Taiwan, yn ogystal â rhannau o Awstralia, Mecsico, a'r Unol Daleithiau. Mae'r cyflwyniad o ddeddfau priodasau cyfunryw yn amrywio rhwng awdurdodaethau, yn cael eu cyflawni gan newid deddfwriaethol i gyfreithiau priodi, dyfarniad llys sy'n seiliedig ar warantau cyfansoddiadol o gydraddoldeb, neu gan bleidlais (drwy fenter bleidlais neu refferendwm). Mae cydnabod priodasau cyfunryw yn fater gwleidyddol, cymdeithasol hawliau dynol a hawliau sifil, yn ogystal â bod yn fater crefyddol mewn llawer o wledydd ar draws y byd, ac mae trafodaethau yn parhau i godi ynghylch priodasau cyfunryw, yr angen i ddal statws gwahanol (uniad sifil), neu gael gwrthod o gydnabyddiaeth hawliau o'r fath. Ystyrir y gallu i ganiatáu i gyplau cyfunryw i briodi'n gyfreithlon yn un o'r hawliau LHDT pwysicaf. Gellir cynnal priodasau cyfunryw mewn seremoni sifil neu seciwlar neu mewn sefyllfa grefyddol. Mae crefyddau amrywiol ar draws y byd yn cefnogi priodasau cyfunryw; er enghraifft: Crynwyr, yr Eglwys Esgobaethol, yr Eglwys Gymunedol Fetropolitan, Eglwys Unedig Crist, Eglwys Unedig Canada, Bwdhaeth yn Awstralia, Iddewon Diwygiedig a Cheidwadol, Wiciaid a Phaganiaid, Derwyddon, Cyfanfydwyr Undodaidd, a chrefyddau Americanwyr Brodorol sydd â thraddodiad dau-enaid, yn ogystal â gwahanol grwpiau Cristnogol, Mwslimaidd, Hindŵ, a Bwdhaidd blaengar a modern, a grwpiau Iddewig ac amryw fân grefyddau ac enwadau eraill. Mae astudiaethau a gynhaliwyd mewn nifer o wledydd yn dangos bod cefnogaeth i gydnabyddiaeth gyfreithiol ar gyfer priodasau cyfrunryw yn cynyddu gyda lefelau uwch o addysg a bod y gefnogaeth yn gryfach ymhlith pobl iau. Yn ogystal, mae polau piniwn mewn gwahanol wledydd yn dangos bod cefnogaeth gynyddol i gydnabyddiaeth gyfreithiol am briodasau cyfunryw ar draws bob hil, ethnigrwydd, oed, crefydd, cysylltiadau gwleidyddol, statws economaidd-gymdeithasol, ac ati.[9][10] CrynodebMae cyflwyno priodas un rhyw wedi amrywio yn ôl awdurdodaeth, yn deillio o newidiadau deddfwriaethol i ddeddfau priodas, heriau llys sy'n seiliedig ar warantau cyfansoddiadol o gydraddoldeb, neu gyfreithloni gan bleidleiswyr drwy refferenda a mentrau pleidleisio. Mae cydnabyddiaeth o briodasau cyfunryw yn fater hawliau sifil, cydraddoldeb, hawliau dynol, gwleidyddol, cymdeithasol, moesol, a chrefyddol mewn llawer o wledydd. Mae dadleuon wedi bod yn codi ynghylch y cwestiwn a ddylai cyplau o'r un rhyw gael eu caniatáu i briodi, angen defnyddio statws gwahanol (fel undeb sifil, sydd naill ai'n rhoi'r un hawliau cyfartal â phriodas neu hawliau cyfyngedig o gymharu â phriodas), neu ddim yn cael unrhyw hawliau o'r fath.[11][12][13] Gall priodas cyfunryw ddarparu trethdalwyr LHDT gyda gwasanaethau'r llywodraeth a gwneud gofynion ariannol arnynt sy'n debyg i'r rhai a roddir i ac sy'n ofynnol o gyplau priod gwryw-benyw. Mae priodas cyfunryw hefyd yn rhoi amddiffyniadau cyfreithiol fel hawliau etifeddiaeth ac ymweliadau ysbyty.[14] Mae pump ar hugain (yr Almaen, yr Ariannin, Awstralia, Awstria, Gwlad Belg, Brasil, Canada, Colombia, De Affrica, Denmarc, y Deyrnas Unedig, y Ffindir, Ffrainc, Gweriniaeth Iwerddon, Gwlad yr Iâ, yr Iseldiroedd,[nb 2] Lwcsembwrg, Malta, Norwy, Portiwgal, Sbaen, Seland Newydd,[nb 3] Sweden, Unol Daleithiau, a Uruguay) o wledydd yn caniatáu i gyplau o'r un rhyw i briodi ar draws y wlad. Cynhelir priodasau cyfunryw hefyd mewn rhannau o'r Mecsico. Mae awdurdodaethau sydd yn cydnabod priodasau cyfunryw pan iddynt gael eu perfformio'n gyfreithlon mewn rhywle arall ond sy ddim yn eu perfformio nhw eu hunain yn cynnwys Israel, Aruba, Curaçao a Sint Maarten, a Mecsico.[15] Mae rhai o dadansoddwyr yn datgan bod lles ariannol, seicolegol a chorfforol yn gwella trwy briodas, a bod plant o gyplau cyfunryw yn elwa o gael eu codi gan ddau riant mewn undeb a gydnabyddir yn gyfreithiol a gefnogir gan sefydliadau'r gymdeithas[16][17][18][19][20][21][22]. NodiadauCyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia