The Guardian
Mae The Guardian yn bapur newydd cenedlaethol Prydeinig sy'n rhan o'r Guardian Media Group. Fe'i cyhoeddir yn ddyddiol o ddydd Llun i ddydd Sadwrn yn y fformat Berliner. Hyd at 1959 ei enw oedd The Manchester Guardian, yn adlewyrchu ei wreiddiau rhanbarthol; weithiau mae'r papur yn dal yn cael ei gyfeirio ato dan yr enw hwn, yn enwedig yng Ngogledd America, er ei fod wedi'i sefydlu yn Llundain ers 1964. (Mae gan y papur wasg argfraffu yn y ddwy ddinas). Mae'r Guardian yn un o'r papurau newydd sy'n cydweithredu gyda WikiLeaks i gyhoeddi detholiadau o'r dogfennau cyfrinachol a gyhoeddir ar y wefan honno, yn cynnwys "Cablegate". Atodlenni a NodweddionAr bob diwrnod gwaith mae The Guardian yn gynnwys yr atodlen G2 sy'n cynnwys erthyglau, colofnau, amserlenni teledu a radio, a'r croesair cyflym. Ers newid i'r fformat Berliner, mae yna adran chwaraeon (Sport) dyddiol ar wahân. Mae atodlenni wythnosol eraill yn cynnwys:
Gwobrwyon llenyddolawddogaeth lenyddolMae The Guardian yn hyrwyddo dwy wobr lenyddol fawr: y Guardian First Book Award, a sefydlodd yn 1999 fel olynydd i'r Guardian Fiction Award (a redodd ers 1965), a'r Guardian Children's Fiction Prize, a sefydlodd yn 1967. Ym mlynyddoedd diweddar mae'r papur hefyd wedi hyrwyddo Gŵyl y Gelli yn y Gelli Gandryll. Golygyddion
Cyfeiriadau |
Portal di Ensiklopedia Dunia