Cablegate
"Cablegate" yw'r enw poblogaidd a ddefnyddir yn eang i ddisgrifio cyhoeddi dros 250,000 o ddogfennau diplomatig Americanaidd gan y wefan datgelu gwybodaeth WikiLeaks. Dechreuwyd cyhoeddi'r dogfennau hyn gan WikiLeaks ar 28 Tachwedd 2010, a hynny mewn cydweithrediad â sawl papur newydd, yn cynnwys El País (Sbaen), Le Monde (Ffrainc), Der Spiegel (Yr Almaen), The Guardian (DU), a'r New York Times (UDA). Mae'r enw "Cablegate" yn adlais o "Watergate", y sgandal a ddaeth ag arlywyddiaeth Richard Nixon i ben. Cyhoeddi'r dogfennauAr 22 Tachwedd 2010, cyhoeddwyd ar drydar Wikileaks y byddai'r datguddiad nesaf yn "7 gwaith maint yr Iraq War Logs." Ar 28 Tachwedd, cyhoeddodd Wikileaks fod ei gwefan yn dioddef "Distributed Denial-of-service attack" anferth[1], ond gaddodd y byddai'n dal i ryddhau gasgliad mawr o geblau a dogfennau diplomatig o eiddo llywodraeth yr Unol Daleithiau trwy gytundeb rhagllaw gyda'r papurau newydd El País, Le Monde, Der Spiegel, The Guardian a'r New York Times. Yn fuan wedyn, cyhoeddodd y Guardian rhai o'r dogfennau hynny, yn cynnwys un lle mae Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau Hillary Clinton yn gorchymyn i ddiplomyddion Americanaidd gael manylion cardiau credyd, cyfrineiriau ebost a gwybodaeth bersonol arall am gynrychiolwyr Ffrainc, y DU, Rwsia a Tsieina yng Nghyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, yn ogystal â gwybodaeth gyffelyb am staff blaenllaw y CU ei hun, yn cynnwys yr Ysgrifennydd Cyffredinol. Datgelwyd hefyd fod cynghreiriaid Arabaidd yr Unol Daleithiau yn Arabia, yn cynnwys brenin Sawdi Arabia, wedi galw ar America i ymosod ar Iran, bod llywodraeth Gweriniaeth Pobl Tsieina yn cymryd rhan mewn hacio cyfrifiadurau, a bod taflegrau Americanaidd yn taro targedau "terfysgol" yn Iemen er bod llywodraeth y wlad honno, mewn cytundeb gyda'r Americanwyr, yn dweud yn gyhoeddus mai nhw oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau hynny.[2] YmatebMewn ymateb i'r datgeliadau, galwodd un cyngreswr Americanaidd, Peter T. King am enwi WikiLeaks yn "sefydliad terfysgol". Dywedodd Hilary Clinton fod y datgeliadau yn "ymosodiad ar y gymuned ryngwladol". Cafwyd bygythiadau niferus i lofruddio Julian Assange, aelodau o'i deulu, cyfreithwyr a staff WikiLeaks.[3] Rhoddodd y seneddwr Americanaidd John Ensign symudiad o flaen y senedd yn ceisio cyhoeddi WikiLeaks yn "fygythiad trawswladol" ("transnational threat") a chafwyd galwadau i asasineiddio Assange gan Marc Thiessen yn y Washington Post, Bill O'Reilly (sy'n gweithio i Fox News) ac eraill.[3] Ar 5 Rhagfyr cyhuddodd yr International Federation of Journalists lywodraeth UDA o "ymosod ar ryddid mynegiant". Dywedodd Aidan White, Ysgrifennydd Cyffrdinol yr IJF, ei fod yn "annerbyniol i geisio nacau pobl yr hawl i wybod." Ychwanegodd "Mae ymateb yr Unol Daleithiau yn orffwyll a pheryglus am ei fod yn mynd yn erbyn egwyddorion sylfaenol rhyddid mynegiant a democratiaeth."[4] Mewn erthygl olygyddol, galwodd The Hindu, un o brif bapurau newyddion India, bolisi'r Unol Daleithiau tuag at WikiLeaks yn "McCarthyaeth ddigidol" a "brawychus o ormesol" (shockingly repressive).[5] Cyfeiriadau
Gweler hefydDolenni allanolSylwer: efallai na fydd rhai o'r dolenni hyn yn gweithio.
|
Portal di Ensiklopedia Dunia