Church Stretton
Tref fechan a phlwyf sifil yn sir seremonïol Swydd Amwythig yw Church Stretton.[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Swydd Amwythig. Gorwedd ar yr A49 tua 13 milltir i'r de o dref Amwythig. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 4,671.[2] Yn oes Victoria, gelwid y dref yn Little Switzerland oherwydd y mynyddoedd o'i chwmpas, lle ceir creigiau hynafol iawn.[3] ![]() Caer Caradog
Bryn ger Church Stretton ac All Stretton yn Swydd Amwythig yw "Caer Caradoc"; o'i gopa ceir golygfeydd gwerth chweil. I'r gogledd gwelir Wrekin, i'r dwyrain Cefn Gweunllwg (Saesneg: Wenlock Edge), i'r gorllewin ceir y Long Mynd, ac ar ddiwrnod clir gellir gweld Bryniau Clwyd yn y gogledd a fflatiau tal Birmingham i'r dwyrain a Bannau Brycheiniog i'r de. Ceir bryn cyfagos o'r un enw 1 km i'r gorllewin, a cheir un arall yng Ngherrigydrudion. Dyma fryncyn G/WB-006 yn Summits on the Air a chyfeirnod grid yr OS yw SO477953. Saif 1,506 tr (459 m) uwch lefel y môr. Ceir bryngaer o Oes yr Haearn neu efallai ddiwedd Oes yr Efydd ac o'r cyfnod Celtaidd hwn y daw'r enw. Credir fod brwydr bwysig wedi'i ymladd yma: brwydr olaf y "Brenin Mawr Caradog" yn erbyn y Rhufeiniaid. Yn ôl chwedl leol, cuddiodd Caradog mewn ogof ger y copa, ac mai'r fryngaer hon oedd ei brif gartref ac amddiffynfa. ![]() Adeiladau a chofadeiladau
Enwogion
Gweler hefydCyfeiriadau
Trefi
Amwythig · Bridgnorth · Broseley · Cleobury Mortimer · Clun · Craven Arms · Croesoswallt · Church Stretton · Dawley · Yr Eglwys Wen · Ellesmere · Llwydlo · Madeley · Market Drayton · Much Wenlock · Newport · Oakengates · Shifnal · Telford · Trefesgob · Wellington · Wem
|
Portal di Ensiklopedia Dunia