Trefesgob, Swydd Amwythig
Tref farchnad fechan a phlwyf sifil yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Trefesgob (Saesneg: Bishop's Castle).[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Swydd Amwythig. Saif tua 1.5 milltir (2.4 km) i'r dwyrain o'r ffin rhwng Cymru a Lloegr. I'r de mae pentref Clun ac i'r dwyrain mae Church Stretton. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 1,893.[2] Tardd yr enw o gastell mwnt a beili a godwyd yma yn 1087 gan Esgob Henffordd i amddiffyn y dre rhag y Cymry cyfagos. Ceir dau fragdy bychan yma a Gŵyl Gwrw a gynhelir yn flynyddol yn niwedd Medi. Gweler hefydCyfeiriadau
Trefi
Amwythig · Bridgnorth · Broseley · Cleobury Mortimer · Clun · Craven Arms · Croesoswallt · Church Stretton · Dawley · Yr Eglwys Wen · Ellesmere · Llwydlo · Madeley · Market Drayton · Much Wenlock · Newport · Oakengates · Shifnal · Telford · Trefesgob · Wellington · Wem |
Portal di Ensiklopedia Dunia