Bridgnorth
Tref a phlwyf sifil yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, sy'n gorwedd yn Nyffryn Hafren, yw Bridgnorth.[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Swydd Amwythig. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 12,079.[2] Fe'i rhennir yn Low Town a High Town, a elwir felly oherwydd eu safle mewn perthynas ag afon Hafren, sy'n llifo rhyngddynt. Enwir Bridgnorth ar ôl pont ar afon Hafren, a godwyd yn fwy i'r gogledd na phont gynharach yn Quatford. Mae Caerdydd 128.4 km i ffwrdd o Bridgnorth ac mae Llundain yn 195.3 km. Y ddinas agosaf ydy Wolverhampton sy'n 20.6 km i ffwrdd. Cyfeiria at Kinver yn y Cytundeb Tridarn (1405) fel un o'r lleoedd sy'n nodi'r ffin arfaethedig rhwng Cymru Fawr a dwy ran Lloegr dan amodau'r cytundeb hwnnw. Cyfeiriadau
Trefi
Amwythig · Bridgnorth · Broseley · Cleobury Mortimer · Clun · Craven Arms · Croesoswallt · Church Stretton · Dawley · Yr Eglwys Wen · Ellesmere · Llwydlo · Madeley · Market Drayton · Much Wenlock · Newport · Oakengates · Shifnal · Telford · Trefesgob · Wellington · Wem
|
Portal di Ensiklopedia Dunia