Caer Caradoc
Bryn ger Church Stretton ac All Stretton yn Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Caer Caradoc (yr hen enw: Caer Caradog) gyda bryngaer ar ei gopa. Enwir y bryn a'r gaer ar ôl Caradog. O'r copa ceir golygfeydd gwerth chweil: i'r gogledd gwelir Wrekin, i'r dwyrain Cefn Gweunllwg (Saesneg: Wenlock Edge), i'r gorllewin ceir y Long Mynd, ac ar ddiwrnod clir gellir gweld Bryniau Clwyd yn y gogledd a fflatiau tal Birmingham i'r dwyrain a Bannau Brycheiniog i'r de. Ceir bryn o'r un enw 1 km i'r gorllewin, a cheir Caer Caradog arall yng Ngherrigydrudion. Adeiladwyd y gaer gan barchu tirffurfiau naturiol y mynydd. Dyma fryncyn G/WB-006 yn Summits on the Air a chyfeirnod grid yr OS yw SO477953. Saif 1,506 tr (459 m) uwch lefel y môr. Cofrestrwyd y fryngaer gan Historic England ar gyfeirnod 1010723.[1] ![]() Ceir bryngaer o Oes yr Haearn neu efallai ddiwedd Oes yr Efydd ac o'r cyfnod Celtaidd hwn y daw'r enw. Credir fod brwydr bwysig wedi'i hymladd yma: brwydr olaf y 'Brenin Mawr Caradog' yn erbyn y Rhufeiniaid. Yn ôl chwedl leol, cuddiodd Caradog mewn ogof ger y copa, ac mai'r fryngaer hon oedd ei brif gartref ac amddiffynfa. Caradog
(Brythoneg *Caratācos, Lladin Caratacus neu Caractacus) yn fab i Cunobelinus, brenin llwyth y Catuvellauni, oedd a’u tiriogaeth o gwmpas glan ogleddol Afon Tafwys yn ne-ddwyrain Lloegr. Ymddengys iddo frwydro yn erbyn llwyth cyfagos yr Atrebates a’u gorchfygu. Ffôdd Verica, brenin yr Atrebates, i Rufain ac apeliodd i’r ymerawdwr Claudius am gymorth i adennill ei deynas. Rhoddodd hyn esgus i Claudius ymosod ar Ynys Prydain yn 43 O.C.. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia