Modrwy (mathemateg)Mewn mathemateg, mae modrwy yn un o'r strwythurau algebraidd sylfaenol a ddefnyddir mewn algebra haniaethol. Mae'n cynnwys set sydd â dau weithred deuaidd sy'n cyffredinoli gweithrediadau rhifyddol adio a lluosi. Trwy'r cyffredinoli hwn, mae theoremau rhifyddeg yn cael eu hymestyn i wrthrychau nad ydynt yn rhifiadol megis polynomialau, cyfresi, matricsau a ffwythiannau. Mae'r fodrwy yn perthyn i "grŵp Abelaidd", gydag ail gweithrediad deuol, cysylltiol - a dosbarthol dros y weithrediadau'r grŵp Abelaidd. Mae gan y fodrwy, fel arfer, elfen unfathiant (identity element), ond nid gan bob awdur. Drwy estyniad o'r cyfanrifau, gelwir y gweithrediadau grŵp Abelaidd yn "adio" ac enw'r ail weithrediad deuaidd yn "lluosi". Datblygwyd y cysyniad o fodrwy rhwng y 1870au a'r 1920au. Mae'r cyfranwyr allweddol yn cynnwys Dedekind, Hilbert, Fraenkel, ac Emmy Noether. Ffurfiolwyd y cysyniad yn gyntaf o fewn damcaniaeth rhifau, a modrwyau polynomial o fewn geometreg algebraidd a damcaniaeth sefydlynnau (invariant theory). Wedi hynny, bu'r cysyniad yn ddefnyddiol mewn canghennau eraill o fathemateg, megis geometreg a dadansoddiad mathemategol. DiffiniadYr enghraifft enwocaf o fodrwy yw'r set o bob cyfanrif, , sy'n cynnwys y rhifau
Mae nodweddion cyfarwydd ar gyfer adio a lluosi cyfanrifau yn gweithredu fel model ar gyfer gwirebau'r modrwyau. Mae modrwy yn set R sydd a dau gweithrediad euaidd + ac · sy'n bodloni'r tri set o wirebau canlynol, a elwir yn "wirebau modrwy"[1][2][3] 1. Mae R yn grŵp Abelaidd, dan adio, sy'n golygu fod:
2. Monoid yw R, mewn lluosi, sy'n golygu fod:
3. Mae lluosi yn ddosbarthol, o ran adio:
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia