Adio
![]() Ychwanegiad (a arwyddir yn aml gyda'r symbol "+") yw adio, sef un o'r pedair gweithrediad sylfaenol mewn rhifyddeg; y leill yw tynnu, lluosi a rhannu. Wrth adio, mae'r person yn ychwanegu dau (neu fwy) o rifau cyfan (cyfanrifau) at ei gilydd i gael cyfanswm. Heblaw am gyfrif eitemau go-iawn (neu 'wrthrychau'), gellir adio mathau eraill o rifau: cyfanrifau, ffacsiynau, rhifau real, a rhifau cymhleth. Mae hyn yn rhan o rifyddeg, cangen o fathemateg. Mewn algebra, rhan arall o fathemateg, gellir adio fectorau a matricsau. Mae gan adio sawl nodwedd bwysig. Mae'n gymudol, sy'n golygu nad yw trefn yn bwysig (ee mae 2 a 3 yr un peth a 3 a 2), ac mae'n gydgysylltiol, sy'n golygu, pan fo un yn ychwanegu mwy na dau rif, nid yw'r drefn yn bwysig. Nid yw ychwanegu 0 yn newid y nifer. Mae adio'n ufuddhau i set o reolau rhagweladwy ynghylch gweithrediadau cysylltiedig megis tynnu a lluosi. Mae adio yn un o'r tasgau rhifol symlaf. Gall blant chwe mis oed a hŷn gyfri rhif bychan o bethau, a hyd yn oed rhai aelodau o rywogaethau anifeiliaid eraill. Y dasg fwyaf sylfaenol yw 1 + 1. Mewn addysg gynradd, addysgir myfyrwyr i ychwanegu rhifau yn y system ddegol, gan ddechrau gydag digidau unigol a mynd i'r afael â phroblemau anoddach o ddydd i ddydd. Mae cymhorthion mecanyddol yn amrywio o'r abacws hynafol i'r cyfrifiadur modern, lle mae ymchwil ar y gweithrediadau ychwanegol mwyaf effeithlon yn parhau hyd heddiw. Nodiant a therminoleg![]() Mae'r weithred o adio'n cael ei ddynodi gyda symbol "+" rhwng y ddau wrthrych, a'r canlyniad yn cael ei fynegi gan y nodiant "=", sef hafaliad. Er enghraifft:
![]() Ceir hefyd mewn rhai amgylchiadau ble nad oes raid defnyddio'r symbol "+", ond yn hytrach cymerir hynny'n ganiataol (ee pan fo ffracsiwn yn dilyn cyfanrif, gelwir hyn yn "rif cymysg".[2] Er enghraifft, Gall cyfanswm cyfres o rifau sy'n perthyn i'w gilydd gael ei fynegi drwy 'nodiant priflythrenau sigma', sy'n ddull cryno o fynegi iteriad (iteration). Er enghraifft,
Cyfeirir at y niferoedd neu'r gwrthrychau i'w hychwanegu yn ychwanegiad at ei gilydd fel "y termau",[4] "yr ychwanegiadau" (neu'r 'adednd')[5] neu'r "symand" (summands);[6]. Mae'r holl derminoleg hyd yma'n deillio o'r Lladin e.e. tarddiad y gair "adio" yw'r ferf "addere" sef gair cyfansawdd, Lladin: "ad" yw "i" a "dare" yw "i roi". Tarddiad y gair Lladin yw'r Proto-Indo-Ewropeg "deh", sef "rhoi". O'r gair Lladin "summa " (a olygai 'yr uchaf'), y daw "swm" a diwedd y gair "cyfan-swm". Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia