Emmy NoetherLua error in package.lua at line 80: module 'Module:Navbar/configuration' not found. Mathemategydd o'r Almaen oedd Emmy Noether (23 Mawrth 1882 – 14 Ebrill 1935), a ddisgrifiwyd gan Pavel Alexandrov, Albert Einstein, Jean Dieudonné, Hermann Weyl a Norbert Wiener fel y mathemategydd benywaidd bwysicaf yn hanes mathemateg. Mae hi'n adnabyddus am y Theorem Noether.[1] Roedd yn o'r mathemategwyr a ddatblygodd y cysyniad o fodrwy rhwng y 1870au a'r 1920au. Fel rhan o'r gwaith hwn, ei chyd-fathemategwyr oedd Dedekind, Hilbert a Fraenkel. Datblygodd hefyd nifer o gysyniadau pwysig o fewn algebra haniaethol a ffiseg damcaniaethol. Mewn ffiseg, mae 'damcaniaeth Noether yn egluro'r cysylltiad rhwng cymesuredd a Deddf Cadwraeth. Manylion personolGaned Emmy Noether ar 23 Mawrth 1882 yn Erlangen ac wedi gadael yr ysgol leol bu'n astudio Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Erlangen–Nuremberg (lle roedd ei thad Max Noether, hefyd yn ddarlithydd), Prifysgol Göttingen, yr Almaen ac yna Coleg Bryn Mawr, UDA. Ymhlith yr anrhydeddau a gyflwynwyd iddi am ei gwaith mae'r canlynol: Gwobr Goffa Ackermann–Teubner. Gan mai merch oedd hi, ni dderbyniodd swydd athro prifysgol llawn, a mynegodd nifer o'i chydweithwyr eu siom yn y drefn annheg yma. Yn ystod ei blynyddoedd olaf, dychwelodd i Brifysgol Bryn Mawr, ac yno y claddwyd ei llwch. Achoswyd ei marwolaeth gan syst wyfaol. GyrfaCredodd fod gan gomiwnyddiaeth rinweddau bydeang a symudodd i Brifysgol Moscfa i barhau a'i gwaith. Erbyn 1932, roedd mathemategwyr y byd yn sylweddoli mawredd ei gallu a'i gwaith o fewn maes mathemateg. Aelodaeth o sefydliadau addysgolAelodaeth o grwpiau a chymdeithasau
Gweler hefydCyfeiriadau
Lua error in package.lua at line 80: module 'Module:Navbar/configuration' not found. |
Portal di Ensiklopedia Dunia