David Hilbert
Mathemategydd o'r Almaen oedd David Hilbert (Almaeneg: [ˈdaːvɪt ˈhɪlbɐt]; 23 Ionawr 1862 – 14 Chwefror 1943). Caiff ei gyfri'n fyd-eang fel un o fathemategwyr mwyaf dylanwadol y 19g a chychwyn yr 20g. Datganfu nifer fawr o syniadau gan gynnwys 'y theori sefydlog' (invariant theori), 'gwirionedd geometreg Hilbert' a 'gofod Hilberg' (Hilbert spaces).[1] Mabwysiadodd ac amddiffynnodd theoriau Georg Cantor a rhifau trawsfeidraidd. Cyflwynodd yn 1900 gasgliad o broblemau a dderbyniwyd bron fel agenda fathemategol gweddill y ganrif, ac sy'n brawf o'i arweinyddiaeth di-ildio yn y maes hwn. Cyfranodd ef a'i fyfyrwyr yn eang ac yn sylweddol iawn, gan ddatblygu offer newydd a phwysig o fewn mathemateg ffiseg modern. Ef oedd y cyntaf i wahaniaethu rhwng mathemateg a metamathemateg.[2] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia