Coleg Bryn Mawr
Coleg Americanaidd i ferched ydy Coleg Bryn Mawr (Saesneg: Bryn Mawr College); caiff ei ddisgrifio fel "coleg y celfyddydau rhyddfrydol". Mae wedi'i leoli ym Mryn Mawr, yn nhalaith Pennsylvania oddeutu 10 milltir i'r gorllewin o Pennsylvania yn Unol Daleithiau America. Cymuned Bryn MawrYn ôl cyfrifiad yr Unol Daleithiau, mae i'r ardal hon arwynebedd o 0.6 milltir sgwar,[1] ac roedd yno boblogaeth o 21,485 gyda chyfartaledd incwm y bobl hyn yn $110,956.[2][3] sy'n ei gwneud yn un o ardaloedd mwyaf cefnog yr UDA. Sefydlu'r ColegDaw enw'r coleg a'r dref o'r Gymraeg. Cyflwynodd William Penn y tir i Rowland Ellis yn y 1680au; enw fferm Rowland Ellis yn Nolgellau oedd "Bryn Mawr". Mae Rowland Ellis, ei deulu a'r cyfnod yn cael ei ddisgrifio gan Marion Eames yn ei nofel hanesyddol Y Stafell Ddirgel. Arferai'r coleg i arddel cysylltiad cry gyda chrefydd y sefydlwyr hyn, sef Crynwriaeth, ond erbyn 1893 roedd wedi'i sefydlu'n goleg amlgrefydd. Coleg Bryn Mawr oedd y coleg cyntaf o'i bath i gynnig gradd uwch (gan gynnwys doethuriaeth) i ferched yn yr Unol Daleithiau.[4] Bu'r mathemategydd Almaenig Emmy Noether yma'n fyfyriwr ac yn ddarlithydd, ac yma y claddwyd ei gweddillion. Cyfeiriadau
Dolenni allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia