Masnachfraint Cymru a'r GororauMae Masnachfraint Cymru a'r Gororau yn fasnachfraint rheilffordd ar gyfer gwasanaethau i deithwyr yng Nghymru ac rhwng Cymru a Lloegr. HanesCymru a'r Gororau (Wales & Borders)Ym mis Mawrth 2000 cyhoeddodd yr Awdurdod Rheilffyrdd Strategol Cysgodol gynllun i greu masnachfraint ar wahân i Gymru a'r Gororau.[1][2] Ym mis Hydref 2001 ail-drefnwyd masnachfreintiau y Valley Lines a Wales & West fel Wales & Borders a Wessex Trains, gyda'r cwmni blaenorol yn cymryd y cyfrifoldeb am rhan fwyaf o'r gwasanaethau yng Nghymru gan gynnwys gwasanaethau'r Cambrian oddi wrth Central trains. Gweithredwyd yr holl fasnachfreintiau gan National Express.[3][4] Ym mis Medi 2003 trosglwyddwyd y gwasanaethau canlynol i Wales & Borders: Birmingham New Street, Crewe a Piccadilly Manceinion i Landudno a Chaergybi, yn ogystal a'r rhai rhwng Bidston a Wrecsam Canolog a Llandudno a Blaenau Ffestiniog, a weithredwyd gan First North Western.[5] Trenau Arriva CymruYm mis Hydref 2002 lluniwyd rhestr fer o Arriva, Connex/GB Railways, National Express a Serco-Abellio a'u gwahodd i gynnig am y fasnachfraint nesaf.[6][7] Yn Rhagfyr 2003 cychwynnodd Arriva ar gontract 15 mlynedd i weithredu'r fasnachfraint tan 2018, yn masnachu fel Trenau Arriva Cymru.[8][9][10] Trafnidiaeth CymruYm mis Hydref 2016 lluniwyd rhestr fer o gwmniau i gynnig am y fasnachfraint nesaf, sef Abellio, Arriva, Keolis / Amey (menter ar y cyd) a Chorfforaeth MTR.[11][12] Bydd y fasnachfraint yn cael ei weithredu o dan y brand Trafnidiaeth Cymru (Transport for Wales).[13] Ym mis Hydref 2017, tynnodd Arriva allan o'r broses.[14][15] Yna tynnodd Abellio allan ym mis Chwefror 2018 yn dilyn cwymp ei bartner Carillion ym mis Ionawr.[16] Ym mis Mai 2018 dyfarnwyd y contract i KeolisAmey Cymru bydd yn gweithredu o dan yr enw Trafnidiaeth Cymru am gyfnod o 15 mlynedd o 14 Hydref 2018 ymlaen mewn contract gwerth £5bn.[17] Bydd y contract yn gwneud buddsoddiad hir-ddisgwyledig i'r rhwydwaith, gan gynnwys:[18]
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia