Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd
![]() Prif gyfnewidfa bysiau prifddinas Cymru yw Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd. Agorwyd y gyfnewidfa ym Mehefin 2024. Datblygu ac adeiladuCaeodd yr hen orsaf fysiau Caerdydd yn 2015, a chafwyd cynlluniau i ail-datblygu'r Sgwâr Canolog a'r cyffiniau.[1] Prynodd Llywodraeth Cymru y tir drws nesa i'r hen safle a disgwyliwyd i'r orsaf newydd gael ei chwblhau erbyn 2022.[2] Yn 2016 cafodd yr hen adeiladau ar y safle, Marland House a'r maes parcio aml-lawr, eu dymchwel.[3] Yn 2019 llofnodwyd contract rhwng cwmnïau Rightacres, Legal & General, a Llywodraeth Cymru i gwblhau’r adeilad, gan gynnwys swyddfeydd a mwy na 300 o fflatiau i'w rhentu.[4] Agorodd y Gyfnewidfa Fysiau newydd o’r diwedd ar 30 Mehefin 2024.[5] Dim ond 50 metr sydd i gerdded rhwng y Gyfnewidfa newydd a gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog a'r bwriad yw bod y ddau wasanaeth trafnidiaeth yn cydweithio i hwyluso siwrneiau teithwyr.[6] Cyfleusterau a gwasanaethau![]() Mae'r gyfnewidfa'n cynnwys 14 bae bws a nifer o unedau manwerthu ar lefel y ddaear.[7] Ceir hefyd adnoddau hanfodol toiledau, thoiledau hygyrch, ac ystafelloedd newid ar y safle.[6] Roedd 25 bws yr awr yn defnyddio'r orsaf, i gyrchfannau ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg. Roedd disgwyl i hynny gynyddu i 60 bws yr awr erbyn diwedd 2024.[5] Bu cwmni fysiau Stagecoach yn defnyddio'r safle o fis Gorffennaf 2024 ymlaen ar gyfer rhai o'u llwybrau taith.[6] Roedd gwasanaethau bws eraill Caerdydd yn parhau i ddefnyddio safleoedd bws ar draws canol y ddinas. Mae National Express yn parhau i ddefnyddio'r orsaf fysiau yng Ngherddi Sophia ar gyfer bysiau'n mynd i gyrchfannau ar draws y Deyrnas Unedig. Dolenni allanol
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia