Maridunum
Caer Rufeinig yw Maridunum (hefyd Moridunum), ar safle presennol tref Caerfyrddin yn ne-orllewin Cymru; cyfeiriad grid SN415200. Codwyd y gaer tua diwedd y ganrif gyntaf. Roedd y gaer yn dod dan reolaeth y pencadlys llengorol ar gyfer de Cymru yn Isca Silurum (Caerleon ar Wysg). Tyfodd tref Rufeinig o gwmpas y gaer yn ystod yr 2g a'r 3edd, a gwnaethpwyd Maridunum yn brifddinas lwythol y Demetae dan y drefn Rufeinig a chanolfan weinyddol y rhanbarth. Roedd ganddi dai pren y tu mewn i'r muriau. Adeiladwyd amffitheatr tu allan i'r porth dwyreiniol. Roedd yn ganolfan fasnach ac amaeth bwysig. Cysylltai ffordd Rufeinig Sarn Helen Faridunum a chaer Rufeinig Caerhun yng ngogledd Cymru. Cofrestrwyd yr heneb hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM: CM235.[1] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia