Caer Ffordun
Caer Rufeinig i'r gorllewin o Drefaldwyn, gogledd Powys, yw Caer Ffordun (hefyd Forden Gaer; Lladin: Lavobrinta?). Fe'i lleolir tua 2 filltir i'r gogledd o Drefaldwyn ger pentref bychan Ffordun, ar lan ddwyreiniol Afon Hafren heb fod nepell o Ryd Chwima; cyfeiriad grid SO209990. Mae'r gaer yn gorwedd ar y ffordd Rufeinig sy'n rhedeg o ddinas Rufeinig Viroconium (ger Wroxeter yn Swydd Amwythig), canolfan y Cornovii yn y cyfnod Rhufeinig, i gyfeiriad y gorllewin. O Gaer Ffordun mae'r ffordd yn mynd yn ei blaen i gaerau Rufeinig Caersŵs a Phen-y-Crogbren ac efallai ymlaen i gaer Pennal, ger Machynlleth. Ychydig o waith archaeolegol sydd wedi cael ei wneud ar y safle. Mae'n gorwedd mewn caeau agored. Tybir ei bod yn gaer ar gyfer marchoglu Rufeinig. Mae'n mesur 186m wrth 167m ac yn amgau ychydig dros 3 hectar o dir. Ymddengys iddi gael ei sefydlu yn gynnar yn 70au'r ganrif gyntaf yn sgîl goresgyniad y Cornovii. Tua'r flwyddyn 160 cafodd y gaer ei dinistrio. Fe'i hadeiladwyd o'r newydd ond cafodd ei dinistrio eto o leiaf unwaith. Gadawyd y gaer tua'r flwyddyn 380. Mae ei hanes ansefydlog a threisgar yn awgrymu cyfnodau o anghydfod ac efallai o wrthryfela lleol yng nghanolbarth Cymru (tiriogaeth yr Ordovices) yn y cyfnod Rhufeinig. Roedd y gaer yn cadw golwg ar ffiniau gorllewinol tiriogaeth y Cornovii, llwyth Celtaidd oedd ar dermau da â'r Rhufeinwyr. Roedd hefyd mewn safle ardderchog i warchod Rhyd Chwima, rhyd hanesyddol ar Afon Hafren sydd a rhan bwysig yn hanes Cymru yn yr Oeoedd Canol. Yn ogystal roedd yr ardal o'i chwmpas yn cael ei chloddio am blwm ac arian gan y Rhufeiniaid. CadwMae'r safle yng ngofal CADW ac yn agored i'r cyhoedd. Cofrestrwyd yr heneb hon gyda'r rhif SAM unigryw: MG012.[1] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia