Caer Rufeinig Caerdydd
Ceir olion Caer Rufeinig Caerdydd oddi tan Gastell Caerdydd, a adeiladwyd ar ben yr hen gaer; cyfeiriad grid ST180765. Mewn stafelloedd arddangosfa dan y muriau presennol gellir gweld darnau o'r muriau Rhufeinig. Nid oes sicrwydd am enw Lladin y gaer, ond awgrymwyd Tamium neu Bovium. Ymddengys i'r gaer gyntaf ar y safle gael ei chodi yn y ganrif gyntaf OC, efallai tua 55 OC. Roedd ganddi arwynebedd o 30 acer, ac wedi ei hadeiladu o goed. Credir bod y gaer hon yn gysylltiedig â'r ymladd rhwng y Rhufeiniaid a'r Silures, efallai dan y llywodraethwr Ostorius Scapula. Tua 30 mlynedd yn ddiweddarach, lleihawyd maint y gaer. Tua 290, adeiladwyd caer gydag arwynebedd o 9 acer (3.57 hectar) ar y safle. Adeiladwyd y gaer o gerrig tywodfaen coch, efallai fel amddiffyniad yn erbyn ymosodiadau o'r môr. Mae'r cynllun yn debyg i gaerau eraill a adeiladwyd o gwmpas y glannau yn y cyfnod yma, megis Portus Adurni (Portchester) yn ne Lloegr. Roedd y muriau yn ddeg troedfedd o drwch. Credir i'r garsiwn adael y gaer tua 370. Mae'r safle yng ngofal CADW ac yn agored i'r cyhoedd. Cofrestrwyd yr heneb hon gyda'r rhif SAM unigryw: GM171.[1] Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia