Caer Rufeinig Caerllion
Lleng-gaer enfawr o'r cyfnod Rhufeinig ydy Caer Rufeinig Caerllion, Caerllion, Sir Casnewydd; cyfeiriad grid ST338906. Dyma bencadlys y Rhufeiniaid yn eu hymgyrch i orchfygu brodorion De Cymru. I'r Rhufeiniwr o leng Legio II Augusta, fel "Isca Silurum" gan mai yn nhiriogaeth y Silwriaid yr oeddent neu fel 'Isca Augusta yr adnabyddid y lleng-gaer hon. Symudodd y lleng i Gaerllion tua'r flwyddyn 74 OC, a bu yma am ganrifoedd, efallai tan ddechrau'r 4g. Mae'r olion o'r cyfnod yma yn parhau i fod yn nodwedd amlycaf Caerllion. Ymhlith yr olion mae olion barics y llengfilwyr, y baddondy, y muriau oedd yn amgylchynu'r gaer, a'r amffitheatr tu allan i'r muriau. Enw Rhufeinig ar y dref oedd 'Iskalis' a ddaeth o enw'r afon: Wysg. Cofrestrwyd yr heneb hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM: MM252, MM230 ac eraill.[1] Mae olion Rhufeinig wedi cael eu darganfod yn ddiweddar mewn rhan arall o Gaerllion, sef, "The Mynde".[2] Yn yr Historia Regum Britanniae gan Sieffre o Fynwy, Caerllion yw prifddinas y Brenin Arthur. Yr amffitheatrArferai'r trigolion lleol alw'r amffitheatr yn "Fwrdd Crwn Arthur" oherwydd ei siap a'r cysylltiad honedig gydag Arthur. Rhwng 1909 ac 1926 cafwyd cloddio archaeolegol o dan arweiniad Victor Erle Nash-Williams, a ddaeth i'r canlyniad mai oddeutu 90 OC y cychwynnwyd ar y gwaith o'i godi. Erys y rhan fwyaf ohono heb ei gloddio. Siâp hirgrwn sydd iddo mewn gwirionedd a chredir y gallasid dal oddeutu chwe mil o bobl. Mae'n cynnwys clawdd pridd wedi ei gynnal gan fur o gerrig, lle mae wyth mynedfa i'r man perfformio.[3] Caerau Rhufeinig cyfagosCeir Caer Penrhos gerllaw: rhif SAM MM011; cyfeiriad grid ST342917. Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Dolen allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia