Liguria
Rhanbarth yng ngogledd-orllewin yr Eidal yw Liguria neu weithiau yn Gymraeg Ligwria[1] lle mae'r Alpau a'r Appennini yn cyrraedd y Môr Canoldir. Genova yw'r brifddinas a'r ddinas fwyaf. Mae Liguria wedi ei enwi ar ôl y Ligure, llwyth hynafol a gafodd eu difodi gan y Rhufeiniaid yn 122 CC. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 1,570,694.[2] Rhennir y rhanbarth yn bedair talaith a enwir ar ôl eu canolfannau gweinyddol, sef: Y RivieraGall yr enw Liguria fod yn gyfystyr â Riviera yr Eidal, sydd wedi'i rannu'n ddwy ran:
Hinsawdd Liguria
Mae hinsawdd arbennig ar Liguria gan ei fod ger y Môr Canoldir a gan fod y mynyddoedd sy'n union i'r gogledd yn ei gysgodi yn erbyn gwyntoedd oer y gaeaf. Dinasoedd a threfi LiguriaMae rhan fwyaf o threfi Liguria ar lan y môr ac ar y Via Aurelia, yr hen ffordd Rhufeinig sy'n rhedeg o Rhufain i Nimes yn Ffrainc. (o'r gorllewin i'r dwyrain)
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia