Ioan Fedyddiwr
Proffwyd Iddewig sydd hefyd yn ffigwr pwysig mewn Cristionogaeth oedd Ioan Fedyddiwr (bu farw tua 30). Ceir hanes ei eni yn Efengyl Luc yn y Testament Newydd. Roedd yn fab i offeiriad o'r enw Sechariah a'i wraig Elisabeth, oedd yn oedrannus ac wedi bod hyd hynny yn ddi-blant. Mae pob un o'r pedwar Efengyl yn sôn amdano yn pregethu ac yn bedyddio yn Afon Iorddonen. Mae'n fwyaf enwog oherwydd iddo fedyddio Iesu a'i gydnabod fel y Meseia. Dywed yr Efengylau iddo gael ei garcharu gan Herod Antipas, tetrach Galilea, ychydig fisoedd wedi iddo fedyddio Iesu. Dywedir fod hyn oherwydd iddo gondemnio priodas Herod a Herodias, gwraig i frawd Herod, Philip. Yn ôl yr hanesydd Josephus, dienyddiwyd Ioan gan Herod i osgoi gwrthryfel. Yn ôl Efengyl Mathew, dawnsiodd merch Herodias, Salome, i Herod, a'i blesio gymaint nes iddo addo iddi unrhyw beth a ddymunai. Ei dymuniad oedd cael pen Ioan. Ioan Fedyddiwr yw nawddsant Puerto Rico, ac enwyd y brifddinas, San Juan ar ei ôl. Ef yw nawddsant Canada Ffrengig hefyd, a dethlir ei ddydd gŵyl, 24 Mehefin, yn Québec fel y Fête nationale du Québec. Ef hefyd yw nawddsant dinas Porto, ail ddinas Portiwgal. Ystyrir ef yn broffwyd yn Islam hefyd, ac mae traddodiad ei fod wedi ei gladdu ym Mosg yr Ummaiaid, Damascus.
|
Portal di Ensiklopedia Dunia