Calabria
Rhanbarth yn ne-orllewin yr Eidal yw Calabria (Lladin: Brutium). Catanzaro yw'r brifddinas; dinasoedd pwysig eraill yw Reggio Calabria a Cosenza. Mae Calabria yn ffurfio penrhyn yn pwyntio tua'r de-orllewin, a Chulfor Messina, dim ond 3.2 km yn ei fan gulaf, yn ei wahanu oddi wrth ynys Sicilia. Dim ond ag un rhanbarth arall y mae ganddo ffin, sef Basilicata yn y gogledd. Mae'r rhanbarth yn ardal fynyddig, gyda mynyddoedd Pollino, La Sila ac Aspromonte. Yn y cyfnod cynnar, roedd yr ardal yn rhan o Magna Graecia, gyda nifer o ddinasoedd Groegaidd adnabyddus megis Rhegion (Reggio Calabria), Sybaris, Kroton (Crotone), a Locri. Concrwyd yr ardal gan y Rhufeiniaid yn y 3 CC. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 1,959,050.[1] Rhennir y rhanbarth yn bum talaith a enwir ar ôl eu canolfannau gweinyddol, sef: Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia